Part of the debate – Senedd Cymru am 6:27 pm ar 26 Ebrill 2022.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r holl gyd-Aelodau am y sylwadau y maen nhw wedi'u gwneud yn y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n credu, yn ddi-os, fod rhai pwyntiau manwl iawn, wrth i ni symud ymlaen drwy'r broses graffu—ac rwyf i yn gobeithio y gallwn ni, ar ôl heddiw, symud ymlaen i Gyfnod 2—bydd angen i ni drafod ymhellach a gweithio ac ystyried gyda'n gilydd.
Rwyf i wedi nodi heddiw pam yr wyf i'n credu bod y Bil yn bwysig, ac yn arbennig i ddiogelu bregusrwydd ein trethi datganoledig a chyllideb Llywodraeth Cymru. Rwyf i wedi gwrando'n ofalus iawn ar farn pwyllgorau ac Aelodau eraill mewn ymateb i hyn, ac wedi nodi'r newidiadau sylweddol, yn fy marn i, sy'n cyfyngu ar effaith a hirhoedledd y ddeddfwriaeth.
Rwy'n credu bod gwerth adlewyrchu hefyd fy mod hefyd wedi symud yn sylweddol ers i ni hyd yn oed gyflwyno'r cynnig gwreiddiol ar gyfer y ddeddfwriaeth. Gwnes i ymateb i ganlyniad yr ymgynghoriad drwy ailysgrifennu cwmpas y pŵer i wneud rheoliadau i gynnwys pedwar prawf diben, y mae nifer o gyd-Aelodau wedi cyfeirio atyn nhw y prynhawn yma. Fe wnaeth hynny, rwy'n credu, yn wirioneddol ein symud ni dipyn o ffordd yn y lle cyntaf o'n cynigion cyntaf, sef cyflwyno pŵer gwneud rheoliadau eithaf eang gyda phŵer eang i wneud rheoliadau. Ond mae'r pedwar prawf diben yn lleihau hynny erbyn hyn. Mae wedi'i gyfyngu i unrhyw un o'r pedwar diben penodol, sy'n cynnwys sicrhau nad yw'r dreth gwarediadau tirlenwi a'r dreth trafodiadau tir yn cael eu gosod lle byddai gwneud hynny'n arwain at beidio â chydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol; i ddiogelu rhag osgoi treth o ran gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir; ymateb i newidiadau yn nhrethi blaenorol y DU—hynny yw, treth dir y dreth stamp a threth tirlenwi—a allai effeithio ar y swm sy'n cael ei dalu i gronfa gyfunol Cymru; ac yna, yn olaf, i ymateb i benderfyniadau'r llysoedd neu'r tribiwnlysoedd sy'n effeithio ar Ddeddfau trethi Cymru, neu a allai effeithio arnyn nhw, neu'r rheoliadau a gaiff eu gwneud oddi tanyn nhw. Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi symud yn sylweddol drwy'r broses graffu hyd yma i geisio ymdrin â phryderon. Ac wrth gwrs, dim ond pan fydd Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n briodol gwneud hynny y mae modd defnyddio'r pwerau gwneud rheoliadau hyn, ac rwy'n gwybod y cawsom ni ddadl dda yn y pwyllgor ar y pwynt penodol hwnnw. Efallai ar adegau penodol y bydd angen gwneud y rheoliadau hyn, ond, mewn gwirionedd, efallai y bydd adegau eraill pan fydd yn briodol gwneud hynny. Felly, efallai na fydd angen rhoi manteision i drethdalwyr Cymru, ond efallai y byddai'n briodol gwneud hynny, a dyna un o'r rhesymau pam yr ydym ni wedi cyflwyno'r prawf penodol hwnnw. Ond rwy'n gwybod y bydd trafodaethau eraill gyda phwyllgorau, gobeithio, os gallwn ni symud ymlaen i'r trafodaethau hynny.
Rwy'n credu bod gwerth i ni dynnu sylw hefyd at yr hyn a fydd yn digwydd ac ystyried beth fydd yn digwydd os na chaniateir i'r Bil fynd yn ei flaen, ac nad oes gennym ni'r pwerau hyn. Rwy'n credu bod y mwyafrif llethol o gyd-Aelodau o leiaf yn cydnabod bod problem yma a bod angen i Lywodraeth Cymru allu ymateb mewn ffordd ystwyth. Mae'r Bil yn hanfodol er mwyn rhoi'r pwerau angenrheidiol i Weinidogion Cymru a'r Senedd ymdrin â'r digwyddiadau allanol hynny. Ac mewn gwirionedd, maen nhw'n ddigwyddiadau allanol wrth gwrs na fyddai angen i Lywodraeth y DU ei hun ymdrin â nhw oherwydd eu bod yn gysylltiedig â phenderfyniadau trethi Llywodraeth y DU y maen nhw'n eu gwneud eu hunain. Ac mae hynny, rwy'n credu, yn agwedd ar y setliad datganoli sy'n arwyddocaol ac mae'n rhaid i ni gael yr arfau i allu mynd i'r afael â nhw mewn modd cyflym ac ystwyth. A gadewch i ni gofio hefyd fod y Bil hwn yn ymwneud â diogelu cyllideb Cymru. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau ein bod ni'n gallu rhoi manteision i drethdalwyr Cymru mewn modd amserol, ac rwy'n credu y byddai trethdalwyr Cymru yn disgwyl i ni allu gwneud hynny ar eu cyfer.
Felly, mae angen dull arnom yn awr, rwy'n credu, o ymateb i'r sefyllfaoedd allanol hynny wrth iddyn nhw godi, a rhai a allai effeithio ar y cyllidebau. A heb y ddeddfwriaeth, a bod yn onest, bydd yn rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o ymateb, ac mae'n debygol y bydd cost gysylltiedig a phryderon eraill o ran hynny. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddai hynny'n golygu y byddai'n rhaid i ni ymateb gan ddefnyddio deddfwriaeth frys, ac mae nifer o anfanteision i'r dull hwnnw. Ar hyn o bryd yng Nghymru, nid oes mecanwaith cyfatebol i Ddeddf Casglu Trethi Dros Dro 1968 yng nghyfraith Cymru, ond, wrth gwrs, gan ein bod ni'n cael y sgyrsiau eraill hyn am y fframwaith a allai fod gennym ni yn y dyfodol, yna gallai hynny'n sicr fod yn rhywbeth y gallem ni fod yn ei ystyried gyda'n gilydd yn hynny o beth.
Os na allwn ni gael y pwerau yn y Bil hwn, ac os na all y Bil hwn fynd yn ei flaen, mae'n golygu bod yn rhaid i ni fyw, o bosibl, gyda rhai newidiadau a fydd wedi eu gorfodi ar Lywodraeth Cymru, a allai arwain at effaith sylweddol ar ein cyllidebau. Neu, fel arall, gallai olygu ymateb i newid dros gyfnod hwy o amser, gan ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol. Neu, os oes gan Weinidogion Cymru bwerau is-ddeddfwriaeth yn Neddfau trethi Cymru y mae'n bosibl i ni eu defnyddio, gallwn ni eu defnyddio nhw, ond maen nhw'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft i raddau helaeth ac ni fyddan nhw, wrth gwrs, yn ymdrin â'r holl newidiadau posibl y gallai fod eu hangen. Y sefyllfa fwyaf tebygol, rwy'n credu, yw y byddai angen i ni ymateb gan ddefnyddio deddfwriaeth frys. Ac, wrth gwrs, mae anfanteision i'r dull hwnnw hefyd. Ac rwyf i yn clywed yr hyn y mae cyd-Aelodau'n ei ddweud ynghylch pwysigrwydd deddfwriaeth sylfaenol, ond rwyf i yn credu bod rhywfaint o werth hefyd mewn ystyried a yw deddfwriaeth sylfaenol, ym mhob achos, o reidrwydd yn rhoi'r craffu gorau posibl. Gall Biliau Brys, er enghraifft, basio mewn un diwrnod, ac rwyf i yn credu bod cymhariaeth rhwng y craffu a wnaed ar y ddeddfwriaeth sylfaenol i weithredu gwyliau treth dir y dreth stamp dros y ffin yn Lloegr yn ystod y pandemig a'r craffu a wnaeth y Senedd ar ein newidiadau ni i'r cyfraddau a'r bandiau, a gafodd eu gwneud drwy reoliadau cadarnhaol tua'r un pryd, yn ddarluniol.
Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth treth dir y dreth stamp ar 13 Gorffennaf, er y bu'n destun penderfyniad Deddf Casglu Trethi Dros Dro ar 8 Gorffennaf, a chafodd ei phasio ar 17 Gorffennaf. Ond cafodd ein his-ddeddfwriaeth ni ei gwneud ar 24 Gorffennaf, daeth i rym ar 27 Gorffennaf, a chafodd ei chymeradwyo, i raddau helaeth oherwydd toriad yr haf, gan y Senedd ar 29 Medi 2020. Ac fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid graffu ar hynny. Rhoddais dystiolaeth i'r pwyllgor ac, wrth gwrs, roedd y Pwyllgor Cyllid yn gallu galw ar arbenigedd yn allanol, i gymryd tystiolaeth allanol ac yn y blaen, pe bai wedi dymuno gwneud hynny hefyd. Felly, rwy'n credu bod llawer i'w ddweud am y craffu sy'n cael ei ganiatáu gan is-ddeddfwriaeth hefyd. Ond mae'r rhain yn ddadleuon rwy'n credu y byddwn yn parhau i'w cael ac rwy'n gobeithio y gallwn ni eu cael. A byddwn i'n annog fy nghyd-Aelodau i ganiatáu i'r Bil hwn fynd ymlaen i'r cam nesaf, i Gyfnod 2. Rwyf i wedi ymrwymo, wrth gwrs, i gymryd camau gyda'r pwyllgorau i ddod o hyd i ddatrysiad deddfwriaethol tymor hwy priodol i'r materion y mae'r Bil yn ceisio'u darparu, a hoffwn i gadarnhau i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid fy mod i'n ymrwymo na fyddai'r gwaith hwnnw'n cael ei ohirio o gwbl os gall y Bil hwn symud ymlaen.
Ac yn olaf, unwaith eto, Llywydd, gofynnaf i fy nghyd-Aelodau ganiatáu i'r Bil hwn fynd i Gyfnod 2 fel y gallwn ni barhau i weithio mewn ffordd wirioneddol adeiladol, rhwng Llywodraeth Cymru a phwyllgorau, i sicrhau bod gennym ni'r gallu i ddiogelu cyllid Cymru a hefyd i sicrhau bod trethdalwyr Cymru'n cael manteision amserol, a hefyd wrth wneud hynny wrth gwrs, yn sicrhau yn bwysig ein bod ni'n parchu rhan y Senedd yn llawn. A gofynnaf eto i fy nghyd-Aelodau ganiatáu i hyn fynd ymlaen i Gyfnod 2. Diolch yn fawr.