Part of the debate – Senedd Cymru am 7:05 pm ar 26 Ebrill 2022.
Diolch, Llywydd, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Er bod yr hyn sydd yn adroddiad Estyn yn dangos bod llawer gyda ni i fod yn falch ohono fe yn ein system addysg, mae'r adroddiad hefyd, wrth gwrs, yn taflu goleuni ar rai o'r elfennau hynny sydd yn rhaid inni barhau i ddelio â nhw. Rwy'n cytuno bod hyn yn cynnwys rhai o'r pethau a wnaeth Heledd Fychan sôn amdanyn nhw yn ei chyfraniad hi.