Part of the debate – Senedd Cymru am 7:18 pm ar 26 Ebrill 2022.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Yr eitem gyntaf i bleidleisio arni yw eitem 10, a'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Iaith Arwyddion Prydain yw'r bleidlais honno. Dwi'n galw am y bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.