Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 26 Ebrill 2022.
Llywydd, mae'r gronfa yn methu â mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd oherwydd cyfres o ddiffygion sylfaenol. Mae'n torri addewid allweddol gan y Ceidwadwyr na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd. Mae'n dyrannu ei symiau is drwy fformiwla sy'n tangynrychioli anghydraddoldeb dwys yn fwriadol ac mae'n symud y broses o wneud penderfyniadau o Gymru i Whitehall.