Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 26 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:36, 26 Ebrill 2022

(Cyfieithwyd)

Gwleidyddiaeth hen ffasiwn o wario er mwyn ennill pleidleisiau yw hyn, onid yw? Clywsom yn ddiweddar y byddai Ynys Môn yn cael tua £16 miliwn o'r gronfa ffyniant gyffredin fel y'u gelwir. Ac er bod unrhyw gyllid i'w groesawu, wrth gwrs—a byddaf yn gweithio gyda phartneriaid i wneud yn siŵr y bydd prosiectau ar Ynys Môn yn elwa cystal â phosibl—nid oes dianc rhag y ffaith bod hyn yn ffracsiwn o'r cyllid a oedd ar gael o dan gronfeydd strwythurol yr UE, a'i fod ymhell o gyflawni addewid Llywodraeth y DU na fyddem ni'n colli ceiniog ar ôl Brexit, y mae'n amlwg nad oes ots gan y Ceidwadwyr amdano o gwbl. Nawr, mae'n llanastr, ond mae fy nghwestiwn yn ymwneud â'r ffaith bod hwn yn llanastr anstrategol. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno nad oes unrhyw feddwl cydgysylltiedig yma gan Lywodraeth y DU, dim cynllun hirdymor? Ac a all ef ddweud wrthyf i pa bwysau y gall Gweinidogion Cymru geisio ei roi ar eu cymheiriaid yn y DU i geisio gwneud rowndiau ariannu dilynol o leiaf ychydig yn fwy strategol eu natur?