Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 26 Ebrill 2022.
Llywydd, bydd teuluoedd Dwyrain Casnewydd yn cael eu cynorthwyo gan becyn £380 miliwn Llywodraeth Cymru y bwriedir iddo helpu teuluoedd ledled Cymru gyda biliau aelwyd cynyddol. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu o fewn ein pwerau i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed, ac rydym ni angen Llywodraeth y DU sy'n barod i wneud yr un fath.