Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 26 Ebrill 2022.
Wel, mae hyn braidd yn anobeithiol, Llywydd, onid yw? Edrychaf ymlaen at weld yr Aelod yn ôl ar ei thraed ymhen pythefnos, pan all wneud sylwadau ar ddigywilydd-dra pobl yng Nghymru a fydd yn mynd i'r papur pleidleisio i wneud eu dyfarniad ar ei Llywodraeth hi. Gadewch i ni weld beth sydd ganddi i'w ddweud amdano bryd hynny.