Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 26 Ebrill 2022.
Llywydd, y ffordd orau o ddarparu gofal o'r fath yw fel gwasanaeth cyhoeddus ac mor agos i gartrefi pobl â phosibl. I'r perwyl hwnnw, rydym ni wedi darparu £3.5 miliwn o gyllid refeniw i fyrddau partneriaethau rhanbarthol i ddatblygu gwasanaethau preswyl arbenigol i blant ag anghenion cymhleth, ac rydym ni wedi ategu'r cyllid refeniw hwnnw gyda dros £14 miliwn mewn cyllid cyfalaf hefyd.