Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 26 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 2:12, 26 Ebrill 2022

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Prif Weinidog. Mae llywodraeth leol wedi dangos arweinyddiaeth eithriadol yng Nghymru fel ysgogwr economaidd allweddol, sy'n gallu nodi anghenion a meithrin perthynas â phartneriaid. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gydag awdurdodau lleol ar wario eu dyraniadau o dan y gronfa ffyniant gyffredin? Ac a yw'n rhannu fy nghyffro ein bod ni'n cydnabod y rhan bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran arwain adnewyddu'r economi yn seiliedig ar anghenion lleol? Diolch.