Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 26 Ebrill 2022.
Llywydd, ni fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn arwain yr ymchwiliad. Cyfrifoldeb y cadeirydd annibynnol, y Farwnes Heather Hallett, fydd gwneud hynny. Roedd y Farwnes Hallett yn arfer bod yn uwch-farnwr uchel ei pharch. Mae ganddi hi brofiad helaeth o gynnal ymchwiliadau sensitif, cymhleth ac uchel eu proffeil, gan gynnwys mewn cyd-destun datganoledig.