Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 26 Ebrill 2022.
Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Y cyntaf: gaf i ofyn am ddatganiad ar unrhyw gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella atebolrwydd democrataidd yn ein byrddau iechyd? Byddwch chi'n gwybod bod yna newidiadau sylweddol wedi bod yn y byrddau iechyd tua 10 mlynedd yn ôl. Fe ddaru ni weld, er enghraifft, cartref gofal Dryll y Car yn Llanaber yn cau, yn colli wyth o welyau ar gyfer cleifion iechyd meddwl oedrannus. O ganlyniad, does yna ddim digon o welyau ar gyfer pobl efo anghenion iechyd meddwl oedrannus yn Nwyfor Meirionnydd ac maen nhw wedi gorfod mynd i Hergest, ac wrth gwrs rydyn ni i gyd yn ymwybodol o'r sefyllfa yno. Rŵan, pe buasai llywodraeth leol neu'r Llywodraeth yma neu'r Senedd yma'n gwneud penderfyniad o'r fath, buasai pwyllgor craffu yn edrych ar y penderfyniad er mwyn gweld os oedd yna unrhyw beth y medrid ei wneud yn wahanol. Ond does yna ddim gallu i graffu ar ein byrddau iechyd. Mae'r cyngor iechyd cymuned yn gwneud gwaith clodwiw, ond does ganddyn nhw ddim y gallu na'r dannedd i wneud yr hyn sydd ei angen. Felly, dwi eisiau gweld, os yn bosib, unrhyw ddatganiad, unrhyw gynlluniau sydd gan y Llywodraeth er mwyn sicrhau y gallu i graffu ar ein byrddau iechyd yn well.
Yn ail, gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog llywodraeth leol, os gwelwch yn dda, ynghylch pa gamau rydych chi am eu cymryd i fynd i'r afael â'r hyn sy'n ymddangos fel argyfwng yn ein cynghorau cymuned, tref a dinas ni? Edrychwch ar Wynedd, er enghraifft. Mae yna 139 ward ar gyfer cynghorau cymuned, a dim ond wyth ohonyn nhw, dwi'n meddwl, sydd efo cystadleuaeth, sydd efo etholiad. Ond mae hyn yn wir ar draws Cymru. Yn Ogwr, er enghraifft, mae yna ddwy ward heb ddim un ymgeisydd ar gyfer yr etholiadau cyngor cymuned sy'n dod i fyny. Dydy hyn ddim yn gynaliadwy. Mae yna newidiadau wedi bod mewn cynghorau cymuned a thref dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn amlwg dydyn nhw ddim wedi gweithio. Felly, pa gamau ydych chi am eu cymryd er mwyn sicrhau bod yr haen yma o lywodraeth leol yn hyfyw?