Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 26 Ebrill 2022.
Wrth ymateb i honiadau na all teuluoedd y mae angen iddyn nhw deithio gyda'i gilydd wneud felly oherwydd oedi o ran fisa i un aelod o'r teulu, plentyn yn aml, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref ddoe fod y Gweinidog Ffoaduriaid, yr Aelod anrhydeddus Arglwydd Harrington, wedi mynd i'r rhanbarth dim ond 10 diwrnod yn ôl i ganfod pam a beth arall y gellid ei wneud i ddod â theuluoedd sydd wedi cael eu fisâu i'r wlad hon. Yn bennaf oll, fel clywsom ni'n fynych gan Lywodraeth Wcráin, fel dywedodd hithau, a chan Lywodraethau yn y rhanbarth hefyd, mae'r teuluoedd hynny'n dymuno aros yn y rhan honno o'r byd, ac mae hynny'n peri dryswch i mi. Rwy'n tybio bod hynny hefyd yn golygu pobl nad oedden nhw efallai wedi gwneud cais am fisa yn y lle cyntaf, ond nid wyf i'n gwybod. Felly, diolch i chi eto am yr alwad ffôn a gefais i oddi wrthych chi ddoe. Yn ystod honno, roeddech chi'n dweud eich bod mewn cysylltiad rheolaidd â Gweinidog Ffoaduriaid y DU, Arglwydd Harrington, y gwnaethoch chi gyfeirio at hynny, unwaith eto, yn eich datganiad heddiw, a bod mwy o fisâu yn cael eu rhoi ond bod yr oedi yn parhau a'ch bod chi'n pwyso am ffurflenni symlach a mwy o gefnogaeth i deuluoedd.
Wel, wedi i mi dynnu eich sylw chi at Link International ychydig wythnosau nôl, rwy'n falch fod yr elusen, o dan ei rhaglen gyswllt Wcráin, yn gweithio gydag awdurdodau lleol y gogledd erbyn hyn mewn cydweithrediad ag asiantaethau statudol eraill a Llywodraeth Cymru ac yn dod â grwpiau cymunedol a ffydd a sefydliadau'r trydydd sector at ei gilydd i gefnogi pobl o Wcráin sy'n cyrraedd gogledd Cymru. Pan euthum i'w cyfarfod Zoom nhw i ymateb i Wcráin yn y gogledd ddoe, fe glywsom ni, er bod 256 o fisâu wedi cael eu rhoi ar gyfer y gogledd, mai dim ond gan 60 o Wcrainiaid mewn 30 o gartrefi lletyol a 150 yng nghanolfan groeso'r rhanbarth y mae ceisiadau wedi dod. Beth, felly, yw eich dealltwriaeth chi o'r rheswm am y bwlch rhwng nifer y fisâu a ganiatawyd, nifer y ceisiadau a gafwyd a'r niferoedd sy'n cyrraedd wedi hynny? Ac a oes gennych chi unrhyw dystiolaeth yn hyn o beth y gallwch ei rannu â ni, neu a yw eich sylwadau yn eich datganiad chi fel arall yn ymdrin â hynny, sy'n dangos eich bod yn dal i geisio datrys y dirgelwch eich hunan wrth i chi ymgysylltu â Llywodraeth y DU?
At hynny, pa drafodaethau a gawsoch chi gydag Arglwydd Harrington ynglŷn â hyn yn ogystal â'r ffyrdd o fynd i'r afael â hyn? Ac eto, roeddech chi'n crybwyll hynny, ond tybed a oes unrhyw bwyntiau penodol pellach y gallech chi eu rhannu nhw gyda ni.
Yn ystod cyfarfod ymateb y gogledd ar Zoom ddoe, fe glywsom ni hefyd oddi wrth sefydliad sy'n gwrthsefyll masnachu mewn pobl yn Romania yr amcangyfrifir bod dros 5 miliwn o Wcrainiaid wedi gadael Wcráin erbyn hyn, gyda thua hanner yn mynd i Wlad Pwyl a 700,000 yn uniongyrchol i Romania, yn ogystal â mwy yn cyrraedd Romania drwy Moldofa sy'n ffinio â'r wlad honno. Fe glywsom ni hefyd ganddyn nhw mai pobl a ddadleolwyd yw'r bobl fwyaf agored i niwed ac felly mae'r canolbwyntio erbyn hyn ar ddiogelu. Yn ystod ein galwad ni ddoe, roeddech chi'n dweud wrthyf i fod pedair Llywodraeth y DU yn cydweithio o ran diogelu erbyn hyn. Sut, felly, ydych chi'n ymgysylltu â sefydliadau sy'n gwrthsefyll masnachu mewn pobl fel yr un a glywsom ni oddi wrtho ddoe, gan weithio ar lawr gwlad gyda ffoaduriaid Wcrainaidd yn y gwledydd y maen nhw wedi ffoi iddyn nhw?
Yn olaf, fe gefais i e-bost gan etholwr yr wythnos diwethaf yn gofyn am gymorth i Wcrainiaid a'u gwesteiwyr DU yn sir y Fflint. Roedd hwnnw'n mynegi, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae'r cynllun Cartrefi i Wcráin yn datgan mai gwesteion yw Wcrainiaid. Mae'r canllawiau yn eglur. Mae gofyn 53 cwestiwn i faban oherwydd rhesymau diogelwch yn dangos yn amlwg iawn pa mor eithafol yw hyn i gyd. Nawr mae cael awdurdod lleol sy'n honni ei fod yn gwneud cais am wiriadau gofal maeth a hepgoriadau preifatrwydd llawn gan noddwyr o'r DU a'u gwesteion Wcrainaidd nhw, ar gyfer dogfennau meddygon teulu, ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a hanes chwiliadau rhyngrwyd, gan gynnwys storio, am 10 mlynedd, yn annibendod. Rwy'n pwyso arnoch chi i roi terfyn ar hyn ar unwaith, sy'n gwneud i westeiwyr deimlo bygythiad a gormes oherwydd methiant posibl wrth ennill cymeradwyaeth i fod yn westeiwyr os na wnân nhw gydymffurfio â'r drefn'.
Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni a yw'r broses ar gyfer ymgeiswyr lletyol a'u gwesteion Wcrainaidd nhw, fel yr oedd fy etholwr i'n ei disgrifio hi, yn cael ei phennu gan Lywodraeth y DU, gan Lywodraeth Cymru neu gan yr awdurdodau lleol unigol? A sut ydych chi am sicrhau y bydd yr angen am ddiogelu, sy'n hanfodol, wrth gwrs, yn cael ei gydbwyso yn erbyn yr angen i gefnogi gwesteiwyr cyfreithlon yn eu brwdfrydedd gwirioneddol nhw i gynnig noddfa i ffoaduriaid o Wcráin ar eu haelwydydd?