4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 26 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:58, 26 Ebrill 2022

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, diolch i chi am y cyfle heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus ni i gefnogi pobl o Wcráin sy'n dianc rhag y dinistr ofnadwy yn eu gwlad nhw. Nid oes unrhyw arwydd bod y rhyfel na'r trais yn Wcráin yn tawelu, ac, ychydig dros wythnos yn ôl, fe lansiodd Putin ymosodiad newydd ar raddfa eang yn rhanbarth Donbas. Ac yn y cyfamser, ychydig o gynnydd sydd wedi bod o ran sefydlu coridorau dyngarol i alluogi pobl i ymadael â'r wlad neu symud i ardaloedd mwy diogel ymhell o faes y gad.

Erbyn hyn, mae dros 5 miliwn o bobl wedi ffoi o Wcráin ers diwedd mis Chwefror, pan ddechreuodd lluoedd Putin yr ymosodiad, a thua 10 y cant o'r boblogaeth yw hynny. Mae'r data diweddaraf gan Lywodraeth y DU yn dangos bod ychydig dros 107,000 o fisâu wedi cael eu rhoi i bobl sy'n ffoi rhag yr ymladd, a rhoddwyd mwy na hanner y rhain i bobl o Wcráin sy'n gwneud cais i ddod i'r DU drwy gynllun nawdd Cartrefi i Wcráin. Maen nhw'n dangos hefyd bod 21,600 o bobl o Wcráin wedi cyrraedd y DU hyd yn hyn. O'r rhain, mae'r mwyafrif llethol—tua 15,000 o bobl—wedi dod drwy lwybr cynllun ar gyfer teuluoedd o Wcráin i fyw gydag aelodau o'u teuluoedd estynedig nhw yn y DU.

Hyd yma, cafodd 1,500 o fisâu eu rhoi i bobl drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin sydd â noddwr yng Nghymru. Mae cyfanswm o 390 o'r rhain ar lwybr uwch-noddi Llywodraeth Cymru. Mae nifer y fisâu sy'n cael eu caniatáu yn parhau i gynyddu bob dydd. Er hynny, nid yw pawb yn teithio cyn gynted ag y caiff fisa ei chyflwyno, ac fe allai hynny fod am nifer o resymau. Efallai mai'r rheswm yw nad yw eu dogfennau nhw ar gyfer caniatâd i deithio ar gael iddyn nhw eto neu am nad ydyn nhw ar gael i bawb yn eu grŵp nhw. Efallai hefyd fod pobl wedi trefnu i deithio ychydig yn hwyrach, ond fe wyddom ni fod yna deuluoedd nad ydyn nhw wedi cael eu fisâu a'u dogfennau wedi'u cymeradwyo ar yr un pryd sy'n teimlo'n rhwystredig oherwydd y fiwrocratiaeth y maen nhw'n ei hwynebu. Rwyf i'n parhau i godi'r materion hyn yn fy nghyfarfodydd â Llywodraeth y DU i helpu i wella'r system a'i gwneud hi mor ddiogel â phosibl i bobl sy'n teithio i'r DU.

Cafodd llwybr uwch-noddi Llywodraeth Cymru ei sefydlu i leihau cymhlethdod a biwrocratiaeth pobl a oedd yn dymuno dod i Gymru a lleihau'r perygl o weld camfanteisio o'r fath. Fe fydd pawb sy'n cael eu noddi gennym ni'n cysylltu â ni'n uniongyrchol i'w helpu nhw i gyrraedd Cymru yn y ffordd hwylusaf bosibl. Ac rwy'n awyddus i fynegi ar goedd fy niolch i awdurdodau lleol, y GIG, y trydydd sector a chysylltiadau gwirfoddol. Gyda'n gilydd, rydym ni wedi gweithio yn ddiflino i sicrhau bod y gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl o Wcráin ar gael ledled Cymru.

Fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r busnesau, y sefydliadau, a llawer o noddwyr unigol sydd wedi cynnig helpu, gan agor eu cartrefi nhw a chynnig cymorth ymarferol gyda rhoddion o ddillad a nwyddau eraill, cynigion o swyddi a chymorth cyfieithu. Rydym ni'n dal i gael ein syfrdanu gan faint ymateb y cyhoedd i'r argyfwng dyngarol hwn, yn enwedig ar adeg pan ydym ni'n wynebu ein hargyfwng ein hunain o ran costau byw. Fe geir llawer iawn o ffyrdd y gall pobl helpu, o gynnig noddi rhywun o Wcráin, hyd at gyfrannu arian neu nwyddau, neu wirfoddoli i helpu. Yn y Llywodraeth, rydym ni wedi rhoi £1 miliwn at gronfa Croeso Cenedl Noddfa, a £4 miliwn i apêl Wcráin y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau.

Mae'r bobl gyntaf bellach yn cael eu lletya yn ein rhwydwaith ni o ganolfannau croeso, lle maen nhw'n derbyn cymorth cofleidiol i'w helpu nhw i wneud eu nyth yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys archwiliadau iechyd, cymorth gyda sgiliau iaith os oes angen hynny, cymorth i agor cyfrif banc a chael budd-daliadau, addysg i blant a chymorth i ddod o hyd i swydd. Fe fydd pawb sy'n cyrraedd Cymru, mewn canolfannau croeso neu wrth fyw ar aelwyd noddwr unigol, yn gallu manteisio ar wasanaethau iechyd. Mae hyn yn cynnwys arbenigwyr iechyd meddwl a thrawma.

Dirprwy Lywydd, ers i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ddiwethaf, rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau pellach, canllawiau a ddiweddarwyd, i awdurdodau lleol a noddwyr unigol, i'w helpu nhw gyda'u cyfrifoldebau niferus. Mae'r canllawiau diweddaraf i noddwyr yn ymdrin â chyngor a gwybodaeth bellach ynglŷn â llety, gan gynnwys y defnydd gwirfoddol o gytundebau tenantiaeth a thrwyddedu enghreifftiol, pa wiriadau y mae angen eu cynnal, cyngor ynglŷn â chaethwasiaeth fodern a'r ystod o gymorth sydd ar gael gan y sector gwirfoddol. Rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau diogelu manwl hefyd ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, a chanllawiau ar gyfer darparwyr gofal plant.

Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd gyda Gweinidog Diwylliant, Ewrop a Datblygu Rhyngwladol Llywodraeth yr Alban, Neil Gray, a Gweinidog ffoaduriaid Llywodraeth y DU, Arglwydd Harrington. Mae'r rhain yn gyfleoedd pwysig i bwyso am welliannau i'r broses fisa ar gyfer cyfyngu ar unrhyw oedi. Ynghyd â'm cyd-Weinidog yn yr Alban, rydym ni'n parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ariannu cynllun teuluoedd Wcráin, a sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, fel bydd pawb sy'n cyrraedd yma o Wcráin yn cael eu cefnogi mewn ffordd sy'n addas. Mae hi'n iawn i'r un gyfradd o gyllid a oedd ar gael ar gyfer cynllun ailsefydlu pobl o Affganistan fod ar gael i gefnogi pobl o Wcráin. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi bod yn cwrdd â swyddogion cyfreithiol y DU i drafod amrywiaeth o faterion hefyd, gan gynnwys ymchwiliad y Llys Troseddol Rhyngwladol i droseddau rhyfel a gyflawnwyd yn Wcráin.

Felly, Dirprwy Lywydd, rwyf i am gloi'r datganiad hwn heddiw drwy ddweud unwaith eto fod cymorth, cyngor a chefnogaeth ar gael drwy ein llinell gymorth rhad ac am ddim ni i noddwyr a phobl sy'n dod o Wcráin. Fe all noddwyr yng Nghymru ffonio'r llinell gymorth rhad ac am ddim ar 0808 175 1508 i gael cyngor. Ar gyfer gwladolion Wcráin a'u teuluoedd nhw, os ydyn nhw y tu allan i'r DU, fe allan nhw ffonio am ddim ar +44 808 164 8810, neu os ydyn nhw yn y DU, fe allan nhw ffonio 0808 164 8810. Mae croeso cynnes yn aros amdanyn nhw yng Nghymru, sy'n genedl noddfa. Diolch.