Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 26 Ebrill 2022.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ategu sylwadau'r Gweinidog ynglŷn â gweithlu'r GIG a'r gwaith aruthrol y maen nhw wedi'i wneud? Ni allwn ailadrodd hynny ddigon, sef ein diolch am eu holl waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ochr yn ochr â chyhoeddi'r cynllun i leihau amseroedd aros, a diolch hefyd i'r Gweinidog, wrth gwrs, am y sesiynau briffio technegol y mae wedi'u darparu hefyd? Mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Byddaf yn dechrau drwy groesawu'r cynllun hwn yn fawr. Rwyf i yn croesawu'n fawr y ffaith bod gan y cynllun hwn dargedau. Mae hynny'n gwbl hanfodol, ac mae hynny'n elfen gadarnhaol o'r hyn yr wyf wedi'i ddarllen heddiw. Rwy'n bryderus iawn ynghylch gosod targed nad oes neb yn aros mwy na blwyddyn, mor bell i ffwrdd â 2025. Ychydig iawn o gysur y bydd hynny'n ei roi, wrth gwrs i'r rhai sy'n aros, yn aml mewn poen ac anesmwythder. Rydym yn 2022 yn awr, ac maen nhw'n edrych ac yn gweld y flwyddyn 2025—mae hynny'n mynd i fod yn anodd iddyn nhw ei dderbyn. Rwyf hefyd yn pryderu nad yw'r targed o 80 y cant ar gyfer diagnosis a thriniaeth canser o fewn 62 diwrnod erbyn 2026 yn ddigon uchelgeisiol. Mae pobl eisoes, wrth gwrs, fel y mae hi ar hyn o bryd, yn troi at ofal preifat.
Sut a phryd, Gweinidog, y byddwch yn sicrhau bod byrddau iechyd Cymru'n cyfathrebu'n effeithiol â'r cannoedd ar filoedd o'r rhai hynny sy'n aros am gymorth ar restrau aros—y rhai hynny y mae eu hiechyd corfforol a meddyliol, efallai, yn dirywio yn y cyfnod hwnnw hefyd? Sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod byrddau iechyd yn cyfathrebu'n effeithiol â'r bobl hyn sy'n aros am wybodaeth? Oherwydd eu bod yn cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw aros sawl blwyddyn cyn cael triniaeth. Sut caiff y targedau hyn eu monitro? A fydd adroddiad blynyddol? Rwy'n gwybod, Gweinidog, y byddwch yn dwyn eich swyddogion i gyfrif am lawer o'r targedau hyn yr ydych wedi'u cyflwyno; sut ydym ni yn y Senedd hon yn mynd i'ch dwyn chi i gyfrif? Sut y gallwn ni wneud hynny? A fyddwch yn cael adroddiad blynyddol? Dywedwch ychydig mwy wrthym am sut y gallwn fonitro cynnydd.
Rwyf i yn croesawu'r defnydd o dechnoleg i fynd i'r afael â rhai o'r pwysau ar weithlu'r GIG, ond mae wedi bod yn bedair blynedd ers i'r cyn Weinidog iechyd gynnig cynlluniau tebyg, ac ers hynny dim ond newydd weld y cynlluniau amlinellol ar gyfer e-bresgripsiynau ydym ni, a allai fod wedi codi llawer o'r baich biwrocrataidd oddi ar feddygon a fferyllwyr. Mae technoleg yn ddefnyddiol, wrth gwrs ei bod, ond nid yw'n mynd i fynd i'r afael â sut y bydd gweithlu'r GIG sydd eisoes dan bwysau a dan straen, yn ymdopi, ac ni fydd ychwaith yn darparu gweledigaeth gyflawn ar gyfer GIG mwy hyblyg ac ymgysylltiol. Sut bydd eich cynllun yn canolbwyntio ar gadw? Pa dargedau ydych chi'n eu rhoi ar waith ar gyfer recriwtio? Sut ydych chi'n meddwl y bydd apwyntiadau rhithwir yn helpu rhywun sydd angen llawdriniaeth ar glun sydd wedi bod yn aros am sawl blwyddyn mewn poen, neu rywun sydd wedi bod yn colli ei olwg? Sut bydd eich gwasanaethau ar-lein yn helpu'r rhai nad ydyn nhw'n gallu defnyddio'r rhyngrwyd? Sut byddwch chi'n sicrhau bod apwyntiadau wyneb yn wyneb gyda meddygon yn ddewis?
A bod yn deg, Gweinidog, mae rhai uchelgeisiau cadarnhaol, uchel iawn yn eich cynllun. Nid wyf yn amau hynny am eiliad. Mae rhai targedau heriol wedi'u gosod yn eich cynllun, mewn rhai agweddau. Ond, ar y darlleniad cyntaf, i mi, hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd bod y cynllun hwn yn fwy nag ateb dros dro yn unig. Nid yw'n mynd i'r afael â rhai o'r problemau hirdymor yr ydym wedi eu hwynebu o fewn GIG Cymru. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod eisiau i ni ailgodi'n gryfach, onid ydym, yng Nghymru, ar ôl y pandemig. Nid ydym yn dymuno dychwelyd i'r man lle'r oeddem ni cyn i'r pandemig ddechrau, rydym eisiau bod mewn gwell sefyllfa. Felly, sut bydd eich cynllun yn gwneud hynny? Rhowch rywfaint o sicrwydd i ni nad ateb dros dro i broblemau cyfredol yn unig ydyw.
Ydy, mae COVID, wrth gwrs, wedi effeithio ar ein gwasanaethau. Rwy'n gwybod eich bod wedi dechrau eich datganiad heddiw, Gweinidog, drwy ddweud eich bod wedi cyhoeddi eich cynllun i helpu i leihau'r amseroedd aros hir sydd, yn anffodus, wedi cronni yn ystod y pandemig. Mae hynny'n ffeithiol gywir. Ond, yr hyn sy'n bwysig ei ddweud hefyd yw yr oeddem ni mewn sefyllfa anodd iawn cyn i'r pandemig ddechrau. Roedd nifer y bobl ar y rhestrau aros wedi dyblu hyd yn oed cyn i'r pandemig daro Cymru. Roedd gennym ni ddwywaith yn fwy o bobl yn aros am fwy na blwyddyn o'i gymharu â Lloegr gyfan ym mis Mawrth 2020. Mae hynny'n ystadegyn eithaf syfrdanol o ystyried maint Cymru o'i chymharu â phoblogaeth Lloegr.