6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ariannu rhagor o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 26 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:25, 26 Ebrill 2022

(Cyfieithwyd)

Rydym ni’n gwneud hyn, wrth gwrs, er nad oes gennym ni gyfrifoldeb dros blismona. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni ddod o hyd i'r arian ar gyfer hyn o gyllidebau nad ydynt wedi'u cynllunio at y dibenion hyn. Fodd bynnag, mae'n arwydd o'n blaenoriaethau a sut y byddai pethau'n wahanol pe bai plismona'n cael ei ddatganoli, fel yr argymhellwyd, nid dim ond gan gomisiwn Thomas, ond comisiwn Silk o'i flaen. Mae hon yn sgwrs rwy'n siŵr y byddwn ni’n dychwelyd ati yn dilyn ein cyhoeddiad arfaethedig ar ddyfodol cyfiawnder yn ystod yr wythnosau nesaf. Byddwch yn cofio i ni gynnal dadl yn y Senedd ar ddatganoli plismona ar 9 Mawrth, a phleidleisiodd y Senedd o blaid y cynnig hwn.

Mae llwyddiant ein cyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, a'r effaith gadarnhaol maen nhw’n ei chael yn eu cymunedau, yn dangos gwerth buddsoddi mewn plismona lleol. Roedd hefyd yn cefnogi ein penderfyniad i gynyddu eu nifer o 100 o fewn y rhaglen lywodraethu bresennol. Mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn hanfodol i amrywiaeth enfawr o waith, gan ddiogelu pobl a chymunedau ar hyd a lled Cymru. Maen nhw wrth wraidd ein timau plismona yn y gymdogaeth, gan weithredu fel cyswllt rhwng cymunedau a gwasanaethau'r heddlu sy'n eu diogelu. Maen nhw’n defnyddio dull datrys problemau, gan ddatblygu atebion hirdymor sy'n lleihau effeithiau andwyol ar gymunedau lleol. Maen nhw’n glustiau a llygaid ychwanegol ar y strydoedd, yn adeiladu perthnasoedd ac yn cryfhau gwybodaeth leol.

Yn ogystal â mynd i'r afael â materion sy'n codi ar lawr gwlad, mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn bresenoldeb gweladwy mewn cymunedau, gan roi hyder a balchder yn ein hardaloedd lleol. Maen nhw’n aml yn gweithio gyda'r rhai mwyaf agored i niwed, gan roi cyngor a chymorth i'r cyhoedd am amrywiaeth eang o faterion diogelwch cymunedol, gan gynnwys diogelu eiddo a sut i nodi a delio â sgamiau. Mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ledled Cymru yn cynnal perthynas â'r gymuned drwy fentrau amrywiol. Cynhelir digwyddiadau 'Paned gyda Phlismon’ yn rheolaidd, gan gasglu barn trigolion lleol a chaniatáu iddyn nhw gyfarfod â swyddogion mewn amgylchedd llai ffurfiol. Mae mentrau llwyddiannus eraill yn cynnwys sesiynau galw heibio iechyd meddwl, grwpiau pensiynwyr henaint, cyfarfodydd arweinwyr cymunedol a seminarau atal troseddu gydag ysbytai a chartrefi gofal. 

Mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu hefyd yn allweddol wrth ymgysylltu â phobl ifanc a'u hannog. Mae'r gweithgareddau'n amrywio o gynllun clwb bocsio dargyfeiriol yn Nyfed Powys i gyflwyno rhaglen ysgolion heddlu Cymru. Mae'r mathau hyn o fentrau ataliol yn ffordd wych ac effeithiol o ddargyfeirio pobl ifanc i ffwrdd o'r system cyfiawnder troseddol.

Rwyf eisiau tynnu sylw'n benodol at ba mor bwysig mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu wedi bod yn yr ymateb i bandemig COVID-19. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn her na welwyd ei thebyg o'r blaen, gan roi pwysau difrifol ar wasanaethau cyhoeddus ac effeithio mewn ffyrdd sylfaenol ar ein bywydau bob dydd. Er ein bod bellach wedi symud tuag at ddull hunanreoleiddio yn bennaf, ar ddechrau'r pandemig, rhoddwyd rheolau diogelwch cyhoeddus llym ar waith. Roedd dod o hyd i ffordd adeiladol o gyfleu'r rheolau hyn a sicrhau eu bod yn cael eu dilyn yn her hynod bwysig. Chwaraeodd ein partneriaid plismona, gan gynnwys swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, rôl hanfodol wrth ymateb i'r her hon a chadw pobl yng Nghymru'n ddiogel.

Drwy gydol y pandemig, roedd swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn cymryd rhan weithredol mewn ymgysylltu, esbonio ac annog pobl i gydymffurfio â'r rheolau iechyd cyhoeddus a roddwyd mewn deddfwriaeth, gan gyflwyno negeseuon hanfodol ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn bersonol. I roi un enghraifft yn unig, cynhaliodd swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu gyfarfodydd o bell yn Wrecsam i wrando ar bryderon COVID-19 gan drigolion ac i roi sicrwydd a chyngor ymarferol ar ddiogelwch. Hoffwn ddiolch i'n swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu am eu dull hyblyg a phragmatig, sydd wedi helpu i ddiogelu bywydau ledled Cymru yn ystod y cyfnod digynsail hwn.   

Mae ein hymrwymiad i ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn rhan o'n dull ehangach o weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr plismona yng Nghymru. Rydym ni’n gweithio ochr yn ochr â'n pedwar pennaeth heddlu a phedwar comisiynydd heddlu a throseddu, gan gydnabod y rhyngwyneb allweddol rhwng plismona a gwasanaethau datganoledig ar faterion fel mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, tai, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Hyd nes y bydd y system plismona a chyfiawnder troseddol wedi'i datganoli'n llawn i Gymru, gan hwyluso'r gwaith o sicrhau gwell canlyniadau i bobl y wlad hon, byddwn ni’n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU mor effeithiol ag y gallwn ni o dan y trefniadau presennol, sydd yn llai na delfrydol.

Ond mae'r buddsoddiad sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu wedi caniatáu i heddluoedd ddarparu wynebau hygyrch a chyfarwydd mewn cymunedau, gan helpu i feithrin ymddiriedaeth, hyder a chyfreithlondeb gyda'u heddlu lleol. Mae hyn yn cael ei gefnogi ar bob lefel gan ein trefniadau partneriaeth cryf. O ganlyniad i'r bartneriaeth gref honno a'n hymrwymiad ariannol, rydw i’n falch o allu dweud wrthych chi heddiw fod y rhan fwyaf o'r 100 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn eu swyddi erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2021-22, gan wneud gwahaniaeth hyd yn oed yn fwy nag o'r blaen i'n strydoedd a'n cymunedau.