Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 26 Ebrill 2022.
Mae plismona'n newid yn gyflym. Mewn sgyrsiau diweddar gydag uwch swyddogion, mae'n amlwg bod seiber-droseddu, yn ei holl ffurfiau, yn meddiannu amser pob heddlu ledled y wlad. Bellach mae angen i recriwtiaid newydd feddu ar y sgiliau TG i fynd i'r afael â'r bygythiad cynyddol hwn. Wedi dweud hynny, mae lle o hyd i'r mathau mwy traddodiadol o blismona; bydd patrolio'r strydoedd ac ymgysylltu'n rheolaidd â'r gymuned yn parhau i fod â rhan i'w chwarae wrth gadw ein strydoedd yn ddiogel am flynyddoedd i ddod. Mae'r math hwn o blismona yn arbennig o galonogol i aelodau hŷn o'n cymuned sy'n siarad yn hoffus am weld plismyn ar y strydoedd yn y blynyddoedd a fu.
Dylid ymdrechu i recriwtio'r swyddogion cymorth cymunedol newydd o gefndir amrywiol er mwyn adlewyrchu'n well y cymunedau maen nhw’n gweithredu ynddyn nhw. Mae'n ffaith bod lleiafrifoedd ethnig yn cael eu tangynrychioli yn ein heddluoedd. Felly, byddwn i’n hoffi gwybod mwy am sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu newydd yn ficrocosm o gymdeithas yn gyffredinol.
Ni ddylem anwybyddu'r cysylltiad rhwng euogfarnau a thlodi. Nid yw hyn yn golygu bod pobl dlawd yn cyflawni mwy o droseddau, ond mae systemau cyfiawnder troseddol ieuenctid ac oedolion yn aml yn cosbi'r tlawd. Mae rhai o'n cymunedau tlotaf a mwyaf agored i niwed yn aml yn cael eu gor-blismona. Rydym ni’n gwybod nad yw tlodi ond yn mynd i gynyddu o ystyried yr argyfwng costau byw, felly rwy'n awyddus i glywed pa fentrau lleihau tlodi sy'n cael eu hystyried i fynd i'r afael ag achos sylfaenol pam mae cynifer o bobl ifanc mewn cymunedau difreintiedig yn mynd i drafferthion gyda'r heddlu. Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi cau Cymunedau yn Gyntaf, ac nid ydym eto wedi gweld cynllun gwrth-dlodi yn cael ei gyflwyno yn ei le.
Mae'n anomaledd syfrdanol bod Cymru'n dal i aros am bwerau dros blismona—pwerau sydd eisoes yn cael eu mwynhau gan wledydd eraill yn y DU, a hyd yn oed gan Fanceinion. Cymru sydd â'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, sy'n dystiolaeth gymhellol bod y system gosbi wedi siomi'r wlad hon. Y tu ôl i'r ystadegyn hwn mae llawer o fywydau wedi'u dinistrio, ac mae wedi achosi dioddefaint di-ben-draw. Fel rydw i wedi dweud o'r blaen yn y Siambr, mae datganoli plismona nid yn unig yn rhoi'r gallu i ni lunio system gyfiawnder fwy effeithiol a thosturiol; mae ganddo hefyd fanteision sylweddol. Byddai datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru yn ein gweld yn cael £25 miliwn ychwanegol i'w wario ar blismona a chyfiawnder—sy'n cyfateb i 900 o swyddogion yr heddlu ychwanegol. Byddai hyn yn cyfrannu rhywfaint at adfer capasiti plismona ar ôl y toriadau llym a wnaed gan Lywodraethau Torïaidd olynol. Gyda hynny mewn golwg, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fywiogi'r ymgyrch i gael San Steffan i ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru? Diolch yn fawr.