Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 26 Ebrill 2022.
A gaf i ddiolch i Hefin David am eich geiriau caredig a chefnogol, a diolch hefyd i chi am leisio barn a siarad i amddiffyn nid yn unig eich etholwyr chi, ond y gymuned draws yng Nghymru? Ac rydych chi'n iawn, mae llawer o'r pethau hyn, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol, wedi'u dylunio i rannu. Ac rwy'n credu bod gennym gyfrifoldeb, waeth pa mor anodd y gallai fod, i dynnu sylw at hynny ac i herio, yn y ffordd orau y gallwn, heb roi mwy o lwyfan i hynny ar yr un pryd. Felly, rwyf yn croesawu'n fawr eich cefnogaeth a phopeth yr ydych yn ei wneud, yn enwedig i gefnogi eich etholwyr eich hun, oherwydd gwn y bydd gennym ni i gyd straeon, mae'n debyg, am ba mor anodd y mae wedi bod i bobl a'r boen y mae pobl wedi'i hwynebu.
Yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, rwyf wedi siarad â chynrychiolwyr o'r gymuned draws yng Nghymru, ac roedd yn wirioneddol ofnadwy gwrando ar yr effaith a gaiff geiriau pobl a'r effaith, y neges y mae'n ei hanfon i eithrio grŵp o waharddiad ar therapi trosi, a phobl yn dweud, 'A yw'n ddiogel bod yma mwyach?', yn y DU, ac mae pobl, yn amlwg, yn poeni am eu hiechyd meddwl. Nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth, fel y dywedaf i, mae'n ymwneud â phobl ac mae'n ymwneud â gwneud y peth iawn gan bawb. Felly, rwy'n croesawu'n fawr gefnogaeth Hefin David.
Ac yn fyr iawn, ar y cynllun gweithredu LGBTQ+, rwy'n gobeithio'n fawr y byddaf yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd cyn toriad yr haf ar hynny a'n cynnydd arno. Ond rwy'n credu bod yr hyn yr ydym ni yn ei wneud heddiw a'r camau yr ydym yn eu cymryd o gwmpas gweithio tuag at waharddiad ar therapi trosi yn rhan fawr o'r cynllun hwnnw. Rwyf bob amser wedi dweud o'r cychwyn nad yw'n ymwneud â'r cynllun yn unig, mae'n ymwneud â'r gweithredu, yn bwysicach oll, sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ac rwyf eisiau cyflwyno'r cynllun hwnnw mewn ffordd lle y gallwn eisoes ddangos lle mae'r camau hynny'n cael eu cymryd.