Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 26 Ebrill 2022.
Diolch. Dirprwy Lywydd, roeddwn i eisiau achub ar y cyfle cyntaf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ar ddechrau toriad y Pasg mewn ymateb i safbwynt newidiol Llywodraeth y DU ar wahardd therapi trosi LHDT. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud ymrwymiadau dro ar ôl tro i roi terfyn ar yr arfer o therapi trosi sydd wedi ei wrthod—yn Araith y Frenhines, gan y Prif Weinidog, gan Weinidogion Llywodraeth y DU, mewn ymgynghoriadau diweddar a thrwy gyhoeddiadau cyhoeddus. Roedd hefyd yn ymrwymiad a wnaed yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru, ac fe wnaethom ni weithredu yn ddidwyll fod yr ymrwymiad hwn yn ymgais ddiffuant i unioni anghyfiawnder clir iawn. Fe wnaethon nhw ddweud y byddai eu cynigion yn gyffredinol ac yn amddiffyn pawb beth bynnag fo'u cyfeiriadedd rhywiol a p’un a ydynt yn drawsrywiol ai peidio.
Pan ddaeth dogfen yn amlinellu dull arfaethedig Llywodraeth y DU i roi heibio’r gwaharddiad cyfreithiol ar therapi trosi yn gyhoeddus, roedd yn disgrifio’r dicter tebygol a fyddai'n dod o'n cymuned LHDTQ+ fel 'sŵn', a phenderfynodd fod ein lleisiau, fel ers cenedlaethau, yn rhywbeth i'w ddiystyru, ei anwybyddu a'i leihau. Ond nid oedd y sŵn hwnnw mor hawdd ei reoli gan i’r Prif Weinidog wneud tro pedol cyflym ar gynlluniau i ddileu deddfwriaeth yn gyfan gwbl i wahardd therapi trosi. Yn gywilyddus, ar Ddiwrnod Gwelededd Trawsrywedd, dewisodd y Prif Weinidog Boris Johnson droi cefn ar bob un person trawsryweddol yng Nghymru a Lloegr.
Mae eithrio pobl draws o gynigion gohiriedig Llywodraeth y DU ar roi terfyn ar yr arfer aneffeithiol a niweidiol hwn yn achosi trallod gwirioneddol ac eang iawn. Nid oes sail resymegol glir dros eithrio pobl draws o'r amddiffyniadau a ddarperir gan y gwaharddiad arfaethedig; yn wir, mae'r gwrthwyneb yn wir, gan fod arolwg LHDT Llywodraeth y DU ei hun wedi canfod bod pobl draws bron ddwywaith mor debygol â phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol o fod yn destun therapi trosi. Mae'n mynd yn groes i gyngor arbenigwyr annibynnol, y proffesiwn meddygol a'r Eglwys Anglicanaidd.
Mae therapi trosi fel y'i gelwir, sy'n ceisio newid neu newid cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhyw person, yn arfer annormal, didostur a hollol annerbyniol sy'n seiliedig ar homoffobia a thrawsffobia dwfn na ddylai fod â lle yn ein cymunedau a'n gwlad. Mae’n cael ei gynnal o dan esgus ffug 'therapi', mae'n achosi poen a dioddefaint difrifol i bobl LHDTQ+, ac yn aml yn achosi niwed corfforol a seicolegol hirdymor. Pan mai'r hyn sydd ei angen fwyaf ar rywun yw cymorth, i'w grymuso a chael eu caru am bwy ydyn nhw, maen nhw’n cael eu gwneud i gredu bod pwy ydyn nhw’n anghywir a'i fod yn rhywbeth i'w wella.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl wrthwynebus i'r arfer hwn, ac mae'n gwneud popeth o fewn ein gallu i'w wneud yn hanes, yn ogystal â’r niwed mae’n ei achosi. Fe wnaethom ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu i ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i wahardd pob agwedd ar therapi trosi LHDTQ+, a cheisio datganoli unrhyw bwerau ychwanegol angenrheidiol. Rydw i’n falch y byddwn ni’n mynd ar drywydd hyn gyda Phlaid Cymru fel rhan o'n cytundeb cydweithredu. Yma yng Nghymru, rydym ni’n sefyll gyda'n gilydd mewn undod â'n cymunedau LHDTQ+ ac oddi mewn iddynt. Does yr un ohonom ni'n gyfartal tra bod unrhyw un o'n hawliau'n cael eu trafod neu eu cyfnewid.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi cwrdd â llawer o aelodau o'n cymunedau LHDTQ+, yn enwedig y rheini o gymunedau traws, i ddeall eu pryderon a'u hofnau yn well, yn ogystal â'u hymdeimlad cyfiawn o ddicter yn y bradychiad hwn gan Lywodraeth y DU. Heddiw, rwyf am ailddatgan ymhellach a chynnig sicrwydd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wahardd arferion trosi i bawb yn ein cymunedau LHDTQ+. Byddwn yn gwneud popeth posibl o fewn ein pwerau datganoledig ac yn ceisio datganoli unrhyw bwerau ychwanegol angenrheidiol i gyflawni hyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu ac yn gwerthfawrogi pob person LHDTQ+. Mae gweithredu'n fwy effeithiol na geiriau, ac mae'n amlwg na allwn ni ymddiried yn Llywodraeth y DU i gyflawni'r amddiffyniadau mae pob aelod o'r gymuned LHDTQ+ yn eu haeddu.
Heddiw, gallaf gyhoeddi'r camau nesaf mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, ac y byddaf i’n eu cymryd, tuag at wneud therapi trosi yn rhywbeth o'r gorffennol, drwy gomisiynu cyngor cyfreithiol i bennu'r holl ddulliau sydd gennym ni yng Nghymru i roi terfyn ar yr arfer o therapi trosi yn llwyr. Rydw i eisiau gwybod beth allwn ni ei wneud, nid yr hyn na allwn ni ei wneud yn unig. Byddwn yn addysgu ac yn codi ymwybyddiaeth o erchyllterau ac aneffeithiolrwydd arferion therapi trosi drwy sefydlu ymgyrch bwrpasol yng Nghymru. Bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw at wasanaethau cymorth presennol ar gyfer goroeswyr therapi trosi, ond ochr yn ochr â hyn byddwn yn cynllunio ac yn comisiynu ymchwil i ddeall yn well effaith therapi trosi ar oroeswyr er mwyn gwella hygyrchedd ac effeithiolrwydd gwasanaethau cymorth. Byddwn yn sefydlu gweithgor o arbenigwyr, i gynnwys cynrychiolwyr o gymunedau ffydd, y sector iechyd a gofal cymdeithasol, a chynrychiolwyr plant a phobl ifanc, ochr yn ochr â phobl LHDTQ+, i helpu gyda'r gwaith hwn a chynghori ar elfennau allweddol wrth i waharddiad gael ei ddatblygu a bwrw ymlaen â hwnnw.
Yn ogystal â hyn, rwy'n falch o allu cyhoeddi bod GIG Cymru wedi ymrwymo i'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar wahardd therapi trosi. Mae sefydliadau sy'n llofnodi'r memorandwm ac yn gweithio i ddarparu neu gomisiynu iechyd meddwl neu seicolegol, fel y GIG, yn ymrwymo i roi terfyn ar yr arfer o therapi trosi drwy sicrhau nad ydynt yn comisiynu nac yn darparu therapi trosi. Rydym ni wedi ymrwymo i adeiladu ar y camau hyn ac i roi'r gorau i therapi trosi yng Nghymru. Mae cefnogaeth eang i waharddiad, ac rydw i wedi cael negeseuon o gefnogaeth gan amrywiaeth o unigolion a sefydliadau, o'r sector iechyd i leoliadau ffydd. Gyda'n gilydd, gallwn wneud therapi trosi yn hanes. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTQ+ yn Ewrop, lle na all neb neu lle na fydd neb yn cael ei adael allan na'i adael ar ôl.