Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 26 Ebrill 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad cadarn y prynhawn yma. Hoffwn uniaethu fy hun a'm plaid yn llwyr gyda'r hyn rŷch chi wedi'i fynegi am agwedd warthus Llywodraeth San Steffan ar y mater hwn. Mae cael y grymoedd i wella bywydau pobl draws yng Nghymru, a'u diogelu, yn hollbwysig os ydym am sicrhau tegwch ac i roi diwedd ar ragfarn ac anghydraddoldeb.
Mae'r mater yma wedi dangos yn glir pam na allwn ymddiried yn Llywodraeth San Steffan i warchod buddiannau pobl Cymru. Mae gennym Senedd i wasanaethu pobl Cymru. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu a galw am yr holl rymoedd sydd eu hangen gan San Steffan fel mater o frys, fel y gallwn wireddu ein huchelgais o sicrhau mai Cymru fydd y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop.
Heb y grymoedd perthnasol, rydym yn parhau i fod ar drugaredd San Steffan a Llywodraethau adweithiol fel yr un sydd gennym dan lyw Torïaid Boris Johnson ar hyn o bryd, nad oes modd ymddiried ynddi o gwbl o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a sicrhau tegwch. Mae'n amlwg bod hwn yn un o nifer o fygythiadau i, ac ymosodiadau ar, hawliau y gymuned LHDTC+, ac yn rhan o agenda ideolegol ehangach Torïaid Johnson i dargedu grwpiau lleiafrifol am resymau gwleidyddol. Mae'n gwbl, gwbl warthus, ac ni ddylem dderbyn y sefyllfa hon.
Mae'r setliad datganoli yn cyfyngu ar ein gallu i amddiffyn y gymuned LHDTC+ yn llawn yma yng Nghymru. Gyda grymoedd llawn dros gyfiawnder, byddwn yn gallu gwireddu'r nod heb fod angen gorfod pwyso a dylanwadu a dadlau, heb fod angen canfod ffyrdd amgen o sicrhau tegwch a chydraddoldeb i'n pobl. Rwy'n croesawu datganiad y Dirprwy Weinidog, ac mae Plaid Cymru yn cefnogi'n llwyr safiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ymarferion trosi yn cael eu gwahardd yn llwyr, a sicrhau nad oes unrhyw un yn dod o dan bwysau i guddio neu newid yr hyn ydyn nhw, o ran eu rhywioldeb neu eu hunaniaeth rhywedd, neu y ddau. Mae Plaid Cymru yn cefnogi'r camau sydd wedi'u hamlinellu i geisio gwahardd ymarferion trosi yng Nghymru, a thrwy gytundeb Plaid Cymru gyda'r Llywodraeth, rŷn ni'n croesawu'r cyfle i gydweithio ar y mater hwn.
Mae'n dda hefyd clywed am y mesurau i godi ymwybyddiaeth am erchyllter ac aneffeithioldeb ymarferion trosi, ac i wella hygyrchedd gwasanaethau cefnogi. Hoffwn ofyn felly a allai'r Dirprwy Gweinidog esbonio'n fanylach sut y bydd modd cyflawni'r nod rydym yn ei rhannu o ran sicrhau gwaharddiad llwyr, cyflawn i ymarferion trosi a diogelu pob person LHDTC+ yng Nghymru rhag y niwed a'r trawma maent yn achosi, a hynny unwaith ac am byth. Pa ddulliau neu brosesau deddfwriaethol sy'n cael eu hystyried fydd yn medru cyflawni hyn, a beth yw'r amserlen y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei rhagweld? Beth yw bwriad y Llywodraeth os nad oes modd cyflawni ei nod, wedi derbyn y cyngor cyfreithiol y mae hi wedi'i gomisiynu? Diolch.