Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 27 Ebrill 2022.
Rwyf bob amser yn hoffi ateb cwestiwn uniongyrchol gydag ateb uniongyrchol. Felly, na, nid wyf yn cytuno â’r Aelod ar hynny. Rwy’n synnu, yn ystod wythnos yr etholiadau llywodraeth leol, neu ychydig cyn wythnos yr etholiadau llywodraeth leol, fod yr Aelod Ceidwadol yn dymuno codi’r hyn y mae’n ei alw'n dangyllido hanesyddol mewn perthynas â llywodraeth leol yng Nghymru, oherwydd, wrth gwrs, mae hyn, uwchlaw dim, yn ganlyniad i'r cyfnod o gyni y buom drwyddo. Mae'n sicr yn wir mai dim ond y cyllid a gawn gan Lywodraeth y DU y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i lywodraeth leol, ac er inni gael setliad gwell eleni, rydym bob amser wedi ceisio blaenoriaethu llywodraeth leol o fewn y cyllid sydd gennym. Ond rydym wedi bod drwy 10 mlynedd o gyni ac mae awdurdodau lleol yn dal i deimlo effaith hynny, wrth gwrs eu bod, yn ogystal ag aelwydydd ledled Cymru, wrth inni fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.