Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 27 Ebrill 2022.
Prynhawn da, Weinidog. Rwy'n adleisio ac yn ategu’r sylwadau a wnaeth Sam Rowlands, ac yn diolch iddo am godi’r mater hwn, a'r sylwadau gan Joyce Watson hefyd. Mae’r un peth yn wir am ein cynghorau tref a chymuned ledled Cymru hefyd. Mae 735 o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru, sy’n gweithredu dros oddeutu 94 y cant o arwynebedd tir a 70 y cant o boblogaeth Cymru. Mae potensial enfawr heb ei gyffwrdd yma, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, i lunio a darparu gwasanaethau seiliedig ar leoedd yn well mewn deialog â chymunedau. Tybed a gaf fi ofyn i chi beth yw eich gweledigaeth, yn hirdymor, ac yn y tymor byr, ar gyfer y cynghorau tref a chymuned hynny a'r camau yr ydych yn eu cymryd i sicrhau eu llwyddiant? Diolch yn fawr iawn.