1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 27 Ebrill 2022.
9. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith ardoll brentisiaethau Llywodraeth y DU ar gyllid awdurdodau lleol? OQ57928
Gosodwyd yr ardoll brentisiaethau ar awdurdodau lleol gan Lywodraeth y DU. Nid ymgynghorwyd â Gweinidogion Cymru, ac ni wnaeth Llywodraeth y DU ystyried ei chanlyniadau na'i heffaith ar y setliad datganoli.
Diolch am yr ateb, Weinidog. Hoffwn weld rhaglenni prentisiaeth yn cael eu defnyddio i lenwi'r bylchau presennol mewn perthynas â recriwtio i awdurdodau lleol. Mae cynghorau'n ei chael hi'n anodd llenwi swyddi fel swyddogion priffyrdd, cynllunwyr ac arbenigwyr draenio. Mae'r rhain yn swyddi technegol sy'n gofyn am hyfforddiant ac arbenigedd yn ogystal â gwybodaeth gref am yr ardal leol. Fodd bynnag, mae'r ardoll brentisiaethau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Dorïaidd y DU yn 2017 yn rhwystr ariannol ac mae'n cael effaith anghymesur yng Nghymru a'r sector cyhoeddus yma. Mae tua 700 o gyflogwyr yng Nghymru yn talu'r ardoll o 0.5 y cant, gan gynnwys holl gyflogwyr y sector cyhoeddus, y GIG, llywodraeth leol a'r heddlu. Er gwaethaf y baich ariannol ychwanegol y mae'r ardoll yn ei roi ar gyflogwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, nid oes arian ychwanegol amlwg ar gael yng Nghymru o ganlyniad i'r ardoll. Er enghraifft, bydd Cyngor Sir y Fflint—mae'n rhaid imi ddatgan fy mod yn dal yn gynghorydd yn sir y Fflint am wythnos—yn talu cost ychwanegol o £617,840 eleni. Pa sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU am effaith ariannol yr ardoll brentisiaethau ar y sector cyhoeddus yma yng Nghymru? Diolch.
Gwnaethom gyflwyno sylwadau cryf i Lywodraeth y DU pan oedd yn ystyried cyflwyno'r ardoll, gan wneud y pwynt hwnnw ei bod, yn ei hanfod, yn faich treth ychwanegol ar y sector cyhoeddus yma yng Nghymru, ac i bob pwrpas mae'n lleihau'r cyllid sydd ar gael iddynt i gyflawni eu dyletswyddau. Gan fod y refeniw o'r ardoll wedi disodli'r cyllid prentisiaethau presennol yn Lloegr, nid yw'r ardoll mewn gwirionedd yn darparu unrhyw arian sylweddol newydd i ni yma yng Nghymru. Roedd hynny'n sicr yn dwyllodrus ar ran Llywodraeth y DU.
Wedi dweud hynny, nid yw'n golygu nad ydym wedi ymrwymo'n llwyr i brentisiaethau. Mae Gweinidog yr Economi wedi gwneud rhai cyhoeddiadau ynglŷn â'n hymrwymiad i'r prentisiaethau pob oed hynny, a fydd yn bwysig iawn. Rwy'n rhannu'r pryderon, mewn gwirionedd, ynghylch yr arbenigeddau y mae rhai awdurdodau lleol yn cael anhawster gyda hwy. Cefais gyfarfod da iawn gydag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eraill ychydig ddyddiau'n ôl, i edrych yn arbennig yn yr achos hwnnw ar yr heriau sy'n gysylltiedig â'r gwasanaethau arolygu statudol, iechyd yr amgylchedd, ac yn y blaen. Mae'r rhain yn sgiliau yr ydym wedi dibynnu'n wirioneddol arnynt drwy gydol y pandemig, ac eto maent yn dal i fod yn brin, ac mae angen inni archwilio sut y gallwn eu datblygu yn y dyfodol. Rwy'n cael yr un sgyrsiau ynghylch caffael—mae caffael cyhoeddus yn faes arall lle mae angen inni fuddsoddi yn sgiliau pobl ar gyfer y dyfodol, ac yn enwedig ceisio sicrhau ein bod yn eu cael i mewn i'n gwasanaethau cyhoeddus ac yn eu cadw pan fyddant yno. Credaf fod meysydd o bwysau arbennig mewn perthynas â'r sgiliau sydd gan awdurdodau lleol, ond rwyf eisiau sicrhau fy nghyd-Aelodau ein bod yn gweithio gyda llywodraeth leol i geisio mynd i'r afael â hynny.
Diolch i'r Gweinidog.