Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 27 Ebrill 2022.
Mae awdurdodau lleol yn gyrff annibynnol sy’n atebol yn ddemocrataidd ac sy’n gyfrifol am graffu ar eu penderfyniadau eu hunain. O fis Mai ymlaen, bydd gan bob prif gyngor ddyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan yn eu penderfyniadau. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth well i gynghorau o ddiddordebau'r cyhoedd yn eu hardal.