Cyllideb Cyngor Sir Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 27 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:13, 27 Ebrill 2022

(Cyfieithwyd)

Rhoddais flaenoriaeth i gyllid ar gyfer llywodraeth leol wrth osod cyllideb Cymru. Yn 2022-23, bydd Ynys Môn yn cael £114.6 miliwn drwy’r setliad llywodraeth leol, sef cynnydd o 9.2 y cant. Mae'r setliad da hwn yn galluogi'r cyngor i sefydlu cyllideb i gynnal a buddsoddi mewn gwasanaethau.