Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 27 Ebrill 2022.
Wel, mae’n ffaith bod rhywfaint o dir yng Nghymru yn eiddo i landlordiaid o Loegr. Ar gyfer pob cynllun Glastir sydd gennym lle mae taliad wedi’i wneud neu wedi’i ymrwymo, o’r £251.1 miliwn a wariwyd, gwnaed £4.4 miliwn i gyfeiriadau y tu allan i Gymru. Felly, nid wyf yn gwybod a ydych yn ceisio creu darlun fod swm sylweddol o gyllid yn mynd allan, ond mae hynny'n ffaith. Felly, mae hynny'n llai na 2 y cant—mae llai na 2 y cant o'r arian a delir o dan gynlluniau Glastir yn mynd i fuddiolwyr sydd â chyfeiriadau y tu allan i Gymru.
Nawr, a wyf i eisiau i dir fferm gael ei werthu i bobl y tu allan i Gymru? Nac ydw, wrth gwrs nad ydwyf. Fodd bynnag, ni allaf ddweud wrth ffermwyr i bwy y dylent werthu eu tir ac nid wyf yn credu y byddech chi na’ch plaid am imi wneud hynny. Rwy’n bryderus iawn ynghylch arferion y clywaf amdanynt lle caiff pobl alwadau ffôn diwahoddiad yn eu cymell i werthu eu tir. Rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud efallai fod rhai o’r ffermydd sy’n cael galwadau diwahoddiad mewn sefyllfa braidd yn fregus ac mae pobl yn chwarae ar hynny. Ac nid ydym eisiau clywed am unrhyw un sydd mewn sefyllfa fregus yn cael galwadau ffôn o'r fath.
Felly, fel rwy’n dweud, ni allaf ddweud wrth ffermwyr i bwy y dylent werthu eu tir. Mae hefyd yn destun pryder ein bod yn clywed, unwaith eto, yn anecdotaidd gan fwyaf—ac rwyf wedi gofyn am dystiolaeth bendant ynghylch hyn—fod gennym gwmnïau mawr yn dod i mewn i Gymru ac yn prynu tir er mwyn plannu coed i wrthbwyso eu hallyriadau carbon. Felly, mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn, ac rwy'n gweithio'n agos iawn, gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar hynny, ond os oes gan unrhyw un dystiolaeth o'r arfer hwnnw, rwy'n awyddus iawn i'w chlywed.