Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch. I mi, un o'r mentrau mwyaf yw Prosiect HELIX. Nid wyf yn gwybod a yw'r Aelod yn ymwybodol o Brosiect HELIX ond dyna'r cynllun sydd wedi symud pethau ymlaen mewn ffordd sy'n gadarnhaol iawn i'r sector yn fy marn i. Mae'n darparu arloesedd, mae'n darparu cymorth technegol ar gyfer gweithgynhyrchu bwyd a'n busnesau prosesu, a gwn fod hyn wedi'i groesawu'n fawr. Fel y dywedais, rwyf wedi bod yn awyddus iawn i geisio gwella capasiti, a rhoddais un enghraifft yn y sector llaeth, ond rwyf yr un mor awyddus i wneud hynny gyda rhannau eraill o'r sector prosesu hefyd.
Felly, mae gennym amrywiaeth o gynlluniau. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym dair canolfan arloesi bwyd ledled Cymru, un yn Llangefni, un yng Ngheredigion ac un yma yng Nghaerdydd. Ac eto, mae'r tair canolfan wedi cefnogi rhan brosesu'r sector bwyd a diod dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn ystod COVID.