Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Wel, fel rŷch chi'n gwybod, does dim dwywaith fod y cyfnod hwn yn gyfnod difrifol iawn ac anodd i ffermwyr, gyda phrisiau ynni, tanwydd a nwyddau ar gynnydd, a hyn ynghyd â'r toriadau i gyllideb y sector amaeth gan y Torïaid yn Llundain a hefyd y cytundebau masnach sy'n mynd i wneud niwed mawr iawn i'r sector yn ogystal. Ac mae'r golygfeydd trychinebus yn Wcráin yn rhoi pwysau pellach ar ein ffermwyr ni. Rŷn ni'n gyfarwydd â statws hanesyddol Wcráin fel basged fara Ewrop, gydag Wcráin a Rwsia yn gyfrifol am 30 y cant o wenith y byd a rhyw 30 y cant o india-corn Prydain—dau gynnyrch sy'n hanfodol, wrth gwrs, mewn bwyd anifeiliaid. Ac fel y clywon ni ddoe, mae pris gwrtaith—fertiliser—wedi codi rhyw bedair gwaith i ryw £1,000 y dunnell, ac mae goblygiadau hyn i gost cynhyrchu bwyd yn sylweddol iawn, a'r realiti yw y bydd pob owns o fwyd nad ŷm ni yn medru ei gynhyrchu yn y gwledydd hyn yn debygol o ddod allan o geg y bobl dlotaf yn y byd. Felly, Weinidog, wrth i ffermwyr wynebu'r anawsterau yma, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud ar effaith y rhyfel ar y sector amaeth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru?