Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 27 Ebrill 2022.
Dyna newyddion gwych, Weinidog, oherwydd mae COVID, Brexit a'r rhyfel yn Wcráin oll wedi gwanhau diogelwch ein llinellau cyflenwi bwyd. Bu'n rhaid arllwys llaeth o Gymru i lawr y draen yn ystod y cyfyngiadau symud am fod y cwmni prosesu o orllewin Llundain wedi gwrthod dod i'w gasglu. Ac yn amlwg, mae'r cynnydd diddiwedd ym mhrisiau petrol yn ei gwneud yn llawer drutach i brosesu bwyd y tu allan i'n gwlad. Rydych wedi rhestru llawer o fentrau diddorol; a allwch chi roi unrhyw syniad faint o fwyd nad yw'n gorfod teithio ar draws y ffin mwyach o ganlyniad i waith Arloesi Bwyd Cymru ac eraill?