Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 27 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:29, 27 Ebrill 2022

(Cyfieithwyd)

Cyfarfûm yn ddiweddar â rhanddeiliaid pysgodfeydd a dyframaethu—ddechrau'r flwyddyn hon, mae'n debyg—oherwydd roeddwn eisiau trafod ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y dyfodol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y bensaernïaeth yn iawn. Gwn fod fy swyddogion wedi parhau i ymgysylltu â hwy. Rydym yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod y diwydiant pysgodfeydd yn llawer mwy cadarn. Rwyf hefyd yn awyddus iawn i ddenu newydd-ddyfodiaid i bysgodfeydd yn y ffordd a wnaethom gyda'r sector amaethyddiaeth, a cheisio denu mwy o fenywod hefyd, ac roeddwn yn falch iawn o siarad yng nghyfarfod cyntaf Menywod mewn Pysgodfeydd.FootnoteLink