Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn ceisio barn y cyhoedd a diwydiant ar gynlluniau i ddiogelu lles cŵn a chŵn bach sy’n cael eu mewnforio. Mae’r Dogs Trust yn nodi, ar hyn o bryd, ac rwy’n dyfynnu:
'dim ond gwiriad "dogfen ac adnabod" anifeiliaid anwes a fewnforir sy'n ofynnol yn ôl rheolau PETS, a gwneir hyn gan staff fferi ac Eurotunnel nad oes ganddynt unrhyw arbenigedd mewn lles anifeiliaid. Nid yw hyn yn cynnwys gofyniad i dynnu llun yr anifail anwes a fewnforir.'
Weinidog, a ydych yn cytuno bod rhaid i ddeddfwriaeth gyflwyno gwiriad gweledol o’r holl anifeiliaid sy’n dod i mewn i’r wlad drwy’r cynllun teithio anifeiliaid anwes, a bod yn rhaid i ffocws gorfodi ar gyfer y ddeddfwriaeth teithio anifeiliaid anwes newid o'r cludwyr i asiantaethau’r Llywodraeth, a'i bod yn ofynnol i'r asiantaethau hyn gael digon o staff mewn porthladdoedd y tu allan i oriau ac ar benwythnosau? Diolch.