Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 27 Ebrill 2022.
Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i Samuel Kurtz fod cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn sicr yn rhan o’r cynllun ffermio cynaliadwy a’r Bil amaethyddiaeth. Rwy’n ymwybodol iawn o’r holl faterion yr ydych wedi’u codi a chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda’n gilydd fel gwahanol Lywodraethau ledled y DU, oherwydd yn amlwg, mae diogelwch y cyflenwad bwyd yn gwbl allweddol ledled y DU. Felly, fel y dywedaf, mae gennyf gyfarfod yn ddiweddarach heno.