Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 27 Ebrill 2022.
Er y gallwn wneud rheoliadau ynghylch prynu a gwerthu cŵn, oni bai bod trywydd papur—neu’n fwy cywir heddiw, trywydd electronig—bydd hynny bob amser yn agored i gamfanteisio. A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi mai cam cyntaf da fyddai dod â thrwyddedau cŵn yn ôl a chadw cofnod o gŵn, eu prynwyr a’u gwerthwyr?