Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 27 Ebrill 2022.
Weinidog, efallai eich bod wedi gweld fy erthygl i Fabians Cymru heddiw am ddyfodol economi gogledd Cymru, ac os nad ydych, rwy’n siŵr y byddwch yn ei darllen â diddordeb maes o law. Ond yn anffodus, daw’r erthygl ar adeg pan ydym unwaith eto wedi cael ein siomi gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Weinidog, a wnewch chi ddefnyddio eich rôl fel Gweinidog Gogledd Cymru i siarad â Gweinidogion Torïaidd y DU a’u hatgoffa bod gogledd Cymru yn bodoli, a phan fyddant yn ein hanwybyddu wrth rannu cyllid—fel y gronfa ffyniant gyffredin, fel y gronfa adfywio cymunedol—mae’n atgyfnerthu’r neges honno, onid yw, Weinidog, nad oes ots gan y Torïaid am ogledd Cymru?