Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch. Nodais fy mlaenoriaethau ar gyfer y sector bwyd a diod yn fy ngweledigaeth ar gyfer y diwydiant. Y blaenoriaethau yw parhau i gefnogi diwydiant cryf a bywiog gyda gwell cynhyrchiant, darpariaeth gwaith teg, mabwysiadu achrediad diwydiant i raddau mwy a gwella cynaliadwyedd. Rwyf hefyd yn ceisio sicrhau rhwydweithiau cryf rhwng ac o fewn cadwyni cyflenwi, gan ychwanegu gwerth at gynhyrchiant sylfaenol, manwerthu a’r sector gwasanaethau.