Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch. Mae cynllun y taliadau ychwanegol yn cyd-fynd â chyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol. Mae'n dangos ein hymrwymiad i wella telerau ac amodau a strwythurau gyrfa gweithwyr gofal cofrestredig ymhellach. Mae staff ategol yn cyflawni rolau gwerthfawr iawn, ond nid ydynt yn weithwyr gofal cofrestredig, ac felly nid yw'r cynllun hwn yn berthnasol iddynt.