5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 27 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:40, 27 Ebrill 2022

Dwi'n gwaredu, mae'n rhaid dweud, weithiau, pan dwi'n gweld cynigion y Ceidwadwyr sy'n dod ger ein bron. Mae'r cynnig yma'n dangos nad oes gan y grŵp yna unrhyw ddiddordeb mewn cyfrannu'n adeiladol, ond yn hytrach yn trafod potensial hwyrach fod yna dreth yn mynd i fod rhywbryd yn y dyfodol. Mae yna ymgynghoriad yn mynd i fod, does yna ddim sicrwydd am y peth, ond dyna ni, rydyn ni'n gwastraffu amser yma heddiw yn trafod rhywbeth dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd ei ddyfodol o.