Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 27 Ebrill 2022.
Hoffwn gyfeirio'r Aelodau at fy natganiadau o fuddiant.
Ers blynyddoedd, mae Llafur Cymru wedi tanbrisio a thanwerthu twristiaeth yma yng Nghymru. A hithau'n genedl chwaraeon fawr, gyda pharciau cenedlaethol gwych, arfordiroedd ysblennydd, bariau a bwytai prysur yn ein trefi a'n dinasoedd, mae Cymru'n rhan unigryw o'r Deyrnas Unedig. Ond bydd cyfarwyddyd polisi gwael gan Blaid Lafur Cymru yn parhau i fygwth cymunedau yng Nghymru, ac os na chânt eu cefnogi, gallai pobl Cymru wynebu'r adferiad mwyaf araf yn yr ynysoedd hyn o'r pandemig COVID-19. Os yw'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi dangos unrhyw beth, mae wedi dangos bod y diwydiant twristiaeth a'r bobl sy'n gweithio yn y sectorau hyn yn gryf, a'u bod hwy eu hunain wedi ymrwymo i adeiladu Cymru fwy a gwell. Mae'n rhaid dweud bod hynny'n fwy nag y gellir ei ddweud am y Llywodraeth Lafur gysglyd a diflas hon ym Mae Caerdydd.
Mae'r Prif Weinidog a'i gyd-Aelodau wedi bod yn brolio am eu hymrwymiad i ailadeiladu'r sector twristiaeth yn ddiweddar. Fodd bynnag, fel bob amser, mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau, a'r hyn a welwn yw strategaeth erydol. Pe bai Llywodraeth Cymru yn mynegi unrhyw ddiddordeb mewn cefnogi ein sector twristiaeth, byddent yn rhoi'r gorau i gynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru. Byddent yn cydnabod mwyafrif yr ymatebion i'w ymgynghoriad—oes, mae ymgynghoriad wedi bod eisoes—ar dreth dwristiaeth, yn ogystal â gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i ardrethi annomestig ar gyfer llety gwyliau. Mae angen iddynt gydnabod eu bod wedi methu codi'r diwydiant i lefelau a welir mewn rhannau eraill o'r DU. Efallai fod angen atgoffa'r Gweinidog—mewn gwirionedd, credaf fod angen atgoffa Llywodraeth Lafur Cymru—mai trethi is sy'n denu entrepreneuriaeth a buddsoddiad busnes. Mae hyn wedyn yn sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi dirywio cymaint yng Nghymru erbyn hyn, fel y soniodd Carolyn—. Wyddoch chi, os oes gennym sector preifat gwell, gyda gwell busnes, yn talu trethi—trethi naturiol sydd wedi'u gosod eisoes, nid cyflwyno rhai newydd—bydd mwy o arian mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Rydych hefyd yn mynd ar drywydd treth dwristiaeth ar adeg pan ydym yn dychwelyd at TAW o 20 y cant. Mae gan yr holl wledydd eraill sydd wedi'u crybwyll, lle mae ganddynt dreth dwristiaeth, drothwyon is o TAW. Ni all y diwydiant lletygarwch oroesi hyn i gyd. Mae'n ymosodiad epig, ac mae'n dangos camddealltwriaeth lwyr o'r sector twristiaeth. Rhaid imi ddweud, rwy'n hoff iawn o fy nghyd-Aelod, Luke Fletcher, ond mae ei rethreg gwrth-ymwelwyr, gwrth-dwristiaeth bellach yn dechrau bwydo'n ôl i fusnesau yn ei etholaeth, ac mae bellach yn ffaith bod y diwydiant ei hun yn gweld Plaid Cymru, a'r Blaid Lafur erbyn hyn, yn anffodus, fel gelynion i'r diwydiant twristiaeth.
Mae diwydiant twristiaeth Cymru wedi'i greu o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig eu maint i raddau helaeth. Mae'r sector yn hanfodol bwysig i gymunedau gwledig yn ogystal ag economïau trefol, gan wella'r ddarpariaeth o gyfleusterau ac amwynderau a ddefnyddir gan drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Yng Nghymru, mae 25 y cant o'r holl fusnesau cofrestredig yn yr economi ymwelwyr. Maent yn cynnig cyfleoedd gwaith sylweddol lle bo dewisiadau eraill yn gyfyngedig iawn. Yma yn sir Conwy, mae twristiaeth yn werth £887 miliwn, a gynhyrchir gan 9.5 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae effaith COVID eisoes wedi gadael ei ôl ar fusnesau yn ardal Aberconwy, gyda cholledion refeniw yn amrywio o tua 60 y cant i 85 y cant.
Yn ogystal â chefnogi tua 10,000 o swyddi yn Aberconwy drwy ffyrlo, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn buddsoddi ymhellach yn yr economi leol, yn enwedig twristiaeth, er enghraifft £51,000 yn y gwaith o wella promenâd bae Llandudno, £219,000 yn natblygiad strategaeth ddiwylliant Conwy, a £850,000 mewn canolfan arloesi twristiaeth. Er bod Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn sector twristiaeth Cymru, mae arnaf ofn fod Llywodraeth Lafur Cymru yn ceisio ei gosbi. Synnwyr cyffredin yn economaidd yw rhoi'r gorau i'r cynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru. Mae angen inni hefyd ddileu'r trothwy 182 diwrnod arfaethedig ar gyfer llety gwyliau. Dylem i gyd fod yn gweithio gyda busnesau i weld pa gymorth sydd ei angen arnynt i barhau i greu swyddi a rhannu'r gorau yng Nghymru gyda'r byd. Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol UKHospitality Cymru, David Chapman:
'Mae'r diwydiant hwn angen mwy o ofal a llai o drethi. Ar ôl dwy flynedd hir o ansefydlogrwydd masnachol, gyda chau gorfodol a chyfyngiadau, rydym yn awr yn wynebu argyfwng costau a hyfywedd a'r peth diwethaf sydd ei angen yw mwy byth o drethiant.'
Ar ôl y pandemig—