Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau o bob rhan o'r Siambr y prynhawn yma sydd wedi cyfrannu heddiw. Mae wedi bod yn ddadl bwysig iawn ac ar adegau, yn ddadl angerddol iawn am sector gwirioneddol bwysig yma yng Nghymru. Wrth gloi'r ddadl heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar dri mater sydd, yn fy marn i, wedi dod i'r amlwg yn ein plith, a'r cyntaf yw pwysigrwydd twristiaeth yng Nghymru, fel yr amlinellwyd yn huawdl gan Tom Giffard wrth agor y ddadl heddiw. Fel y gwyddom, mae Cymru'n croesawu tua 100 miliwn o ymweliadau bob blwyddyn. Mae'r rhain yn bobl sy'n dod i'n gwlad wych, yn gwario eu harian, yn cefnogi swyddi lleol ac yn mwynhau ein hatyniadau ysblennydd. Rwy'n siomedig braidd, mewn gwirionedd, na wnaeth yr Aelodau enwi rhagor o atyniadau neu ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, ond crybwyllwyd rhai ohonynt heddiw, ac mae gennym bum ardal o harddwch naturiol eithriadol wedi'u dynodi eisoes, a hefyd, wrth gwrs, y parciau cenedlaethol ledled Cymru ac atyniadau gwych. Mae tair o'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol hynny, wrth gwrs, yn y gogledd, ac efallai y bydd rhai'n dadlau mai dyna'r rhan fwyaf deniadol o Gymru, ond ni feiddiaf ddweud hynny yn awr. Mae pwynt 1 yn ein cynnig yn datgan ein bod yn dathlu
'cryfder Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf i dwristiaid.'
Roeddwn yn rhyfeddu, mewn gwirionedd, fod Llywodraeth Cymru wedi dewis dileu'r rhan honno o'n cynnig. O'r holl rannau o'n cynnig, mae dathlu Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf i dwristiaid yn eithaf diniwed. Roeddwn yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwneud hynny. Dyna oedd y peth cyntaf. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, a ydych eisiau gwneud—?