Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch. Nid oes anghytundeb o gwbl fod twristiaeth yn gwneud cyfraniad economaidd sylweddol tu hwnt i Gymru, gyda gwariant sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn cyrraedd mwy na £5 biliwn bob blwyddyn yn 2019, cyn y pandemig, ac wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld diwydiant twristiaeth ffyniannus ac adferiad cryf o COVID-19. I gydnabod effaith COVID rydym wedi darparu cymorth ariannol digynsail i'r sector. Mae busnesau twristiaeth wedi bod yn gymwys i gael gwerth £2.6 biliwn o grantiau o'r gronfa cadernid economaidd, sydd wedi diogelu 28,500 o swyddi ledled Cymru. Mae llawer o fusnesau twristiaeth hefyd wedi elwa o'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £108 miliwn, sy'n cefnogi digwyddiadau diwylliannol a'r unigolion sy'n gweithio yn y sector, ac mae busnesau twristiaeth hefyd wedi elwa o'r £730 miliwn a ddarparwyd gennym drwy ein cynlluniau rhyddhad ardrethi i'r sector manwerthu, hamdden a lletygarwch. Mae'r mesurau hyn, yn ogystal â'r grantiau sy'n gysylltiedig ag ardrethi annomestig a'r grantiau dewisol a ddarperir gan awdurdodau lleol, yn amlwg wedi galluogi'r sectorau hyn i oroesi.
Mae'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref i adfer ac ailadeiladu ar ôl y pandemig. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi croesawu'r nifer uchaf erioed o ymwelwyr o'r DU. Mae ein diwydiant twristiaeth yn aeddfed, mae'n brofiadol ac mae ganddo'r gallu i dyfu o hyd, ond mae hefyd wedi dweud wrthym fod yn rhaid i dwf gynnal, nid bygwth, y pethau pwysicaf. Ein huchelgais yw cefnogi datblygiad twristiaeth gynaliadwy sy'n mynd i'r afael ag anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a'r cymunedau sy'n cynnal y dwristiaeth honno, ac mae honno'n egwyddor sylfaenol sy'n sail i'n cynnig ar gyfer ardoll dwristiaeth.
Ym mis Chwefror amlinellais y nodau polisi a'r amserlen ar gyfer datblygu cynigion ardollau twristiaeth. Mae ein cynigion yn gyfle i fuddsoddi yn y cymunedau lleol hynny a'r gwasanaethau sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiannus, ac nid yw ond yn deg fod ymwelwyr yn gwneud cyfraniad. Rydym ar ddechrau'r drafodaeth ynglŷn â sut y bydd yr ardoll yn cael ei defnyddio i gynnal a chefnogi'r ardaloedd yr ydym yn ymweld â hwy ac yn eu mwynhau.
Wrth gwrs, mae ardollau twristiaeth, fel y clywsom, yn gyffredin iawn ledled y byd, gyda'r rhan fwyaf o wledydd yn Ewrop yn eu defnyddio. Maent wedi'u llunio i fod yn gymesur a chanran fach o'r bil cyfan i ddefnyddwyr ydynt. Prin yw'r dystiolaeth fod ardollau twristiaeth yn cael effaith economaidd negyddol. Cânt eu defnyddio i fod o fudd i'r ardaloedd a'r cymunedau lleol sy'n dewis eu defnyddio. Bydd y pwerau'n ddewisol, gan rymuso awdurdodau lleol i wneud eu penderfyniadau eu hunain a phenderfynu beth sydd orau i'w cymunedau. Wrth gwrs, rwy'n croesawu pob barn a thystiolaeth wrth inni barhau i gydweithio â'n partneriaid i helpu i lunio'r cynigion hyn. Cynhelir ymgynghoriad mawr yn ddiweddarach eleni, a bydd hwnnw'n gyfle i bob barn gael ei chlywed a'i hystyried. Drwy'r broses hon byddwn yn llunio treth sy'n cyd-fynd â'n hegwyddorion craidd ar gyfer trethiant, ac un sy'n gweithio i gymunedau yng Nghymru.
Ar 2 Mawrth cyhoeddais y camau nesaf a gymerwn yn dilyn yr ymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar. Mae'r camau'n rhan o'n cynlluniau i sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i'r cymunedau lle mae ganddynt gartrefi neu'n lle maent yn rhedeg busnes. Mae hyn yn ei dro yn rhan o'n dull triphlyg o fynd i'r afael â'r effaith y gall nifer fawr o ail gartrefi a llety gwyliau ei chael ar gymunedau a'r iaith Gymraeg. Mae'r safbwyntiau a gyflëir yn yr ymgynghoriad, gan gynnwys o'r sector twristiaeth ehangach, yn amlwg yn cefnogi newid i'r meini prawf ar gyfer dosbarthu llety hunanddarpar fel llety annomestig. Roedd yr ymatebion yn dangos y byddai busnesau llety gwyliau dilys yn gallu cyrraedd trothwyon gosod uwch ac awgrymwyd amrywiaeth eang o ddewisiadau amgen posibl. Bydd codi'r trothwyon yn dangos yn gliriach fod yr eiddo dan sylw yn cael ei osod yn rheolaidd ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r economi leol.
Yn dilyn ein hymgynghoriad, rydym o'r farn y dylai eiddo hunanddarpar sy'n cael ei osod yn anfynych fod yn gymwys ar gyfer y dreth gyngor. Bydd cynyddu meini prawf gosod yn sicrhau nad yw eiddo o'r fath ond yn cael ei ddosbarthu fel eiddo annomestig os caiff ei ddefnyddio at ddibenion busnes am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Felly, cyhoeddais ein bwriad i ddiwygio'r meini prawf o 1 Ebrill 2023 ac rwyf bellach wedi lansio ymgynghoriad technegol ar y ddeddfwriaeth ddrafft. Daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 2 Ebrill ac mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd. Ac rwy'n bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r rheini a chyhoeddi'r camau nesaf yn fuan.
Yn amodol ar unrhyw newidiadau sy'n deillio o'r ymgynghoriad, pan wneir y ddeddfwriaeth, cynhelir asesiad effaith rheoleiddiol i gyd-fynd â hi, a diolch i Gynghrair Twristiaeth Cymru a chynrychiolwyr eraill am roi gwybodaeth ychwanegol inni, a byddwn yn ystyried yr wybodaeth honno yn yr asesiad effaith.