Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bob un ohonoch am y cyfraniadau ystyriol ac adeiladol iawn i'r ddadl hon heddiw. Rwy'n cytuno â’r Dirprwy Weinidog pan gyfeiriodd at gyfraniad Janet Finch-Saunders a’i phryder ynghylch nifer y bobl nad ydynt yn cael digon o arian i dalu eu rhent, ac rwy’n falch iawn ei bod bellach wedi sylweddoli bod yna argyfwng, ac y bydd yn cysylltu â Llywodraeth y DU. Mae’n argyfwng sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers blynyddoedd lawer, Janet, ond croeso i’r gêm o’r diwedd.
Mike, diolch am fod yn hyrwyddwr tai dros y blynyddoedd diwethaf a sicrhau eich bod wedi bod yn codi llais, fel y dywedoch chi, a diolch am nodi nad oes cysylltiad rhwng chwyddiant rhent a'r lwfansau tai cynyddol. Gwnaeth Sioned bwynt fod y gymuned LHDTC+ yn cael ei chynrychioli’n anghymesur mewn ystadegau digartrefedd, a bod angen inni edrych yn benodol ar y cymunedau hynny. Gwnaeth Jenny Rathbone bwynt ynghylch yr astudiaeth achos sydd gennych yn eich etholaeth; rwy’n mawr obeithio y bydd y teulu hwnnw y cyfeirioch chi ato'n dod o hyd i dŷ cyn bo hir, ond mae’n enghraifft o'r modd y mae hyn yn effeithio ar bobl ledled Cymru, o Gaernarfon i lawr i Gaerdydd.
Gwnaeth Peredur bwynt, wrth gwrs, o ganolbwyntio ar dai amlfeddiannaeth, a’r ffaith bod tenantiaid yn fwy tebygol o gael profiadau rhentu negyddol mewn tai amlfeddiannaeth. Diolch am eich cyfraniad. Sarah, fe gyfeirioch chi at y Wallich, ac Aaron a Lacey, dau unigolyn ifanc a oedd yn chwilio am dai, ond yn benodol, fe ddywedoch chi y byddai incwm sylfaenol cyffredinol o gymorth. Rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at weld effaith incwm sylfaenol cyffredinol, a chredaf y bydd yn gam cadarnhaol ymlaen.
Yna, yn olaf, y Dirprwy Weinidog—diolch iddo ef am ei gyfraniad. Edrychaf ymlaen at weld effaith yr ymyriadau y bydd y Llywodraeth yn eu gwneud dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ar y cyd â Phlaid Cymru, rai ohonynt yn gyffrous iawn, a sicrhau ein bod yn rhoi diwedd ar ddigartrefedd. Fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog, Llywodraeth y DU sydd â’r pwerau a’r adnoddau cyllidol i helpu pobl—mae hynny'n gwbl wir. Dyma pam fod angen inni ddatganoli lles. A dweud y gwir, byddwn yn mynd ymhellach a dweud mai dyma pam fod angen annibyniaeth arnom, fel bod Cymru'n penderfynu ar ein polisïau cyllidol ac economaidd ein hunain, ac yn cyfarwyddo ein dyfodol ein hunain.
Mae gwelliant y Ceidwadwyr yn sôn am yr hawl i brynu. Unwaith eto, nid yw'r hawl i brynu yn rhan o'r ateb, mae'n rhan o'r broblem. Mae llawer o'r eiddo yr ydym yn eu hystyried yn drafferthus erbyn hyn yn dai a oedd yn arfer bod yn mewn dwylo cyhoeddus, a bellach mae llai o reolaeth ansawdd drostynt, ac mae arian cyhoeddus bellach yn llenwi pocedi preifat yn hytrach na chael ei ailfuddsoddi mewn tai cyhoeddus. Felly, na, bydd ailgyflwyno’r hawl i brynu yn gwthio prisiau tai i fyny ac yn gwthio prisiau rhent yn uwch eto.
Mae ein cynnig yn galw'n glir ar Lywodraeth y DU i ddiwygio’r lwfans tai lleol i wneud iddo weithio i Gymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried argymhellion map ffordd End Youth Homelessness Cymru. Fel y mae, mae cyfraddau'r lwfans tai lleol wedi'u gosod ar lefelau sy'n rhy isel i dalu rhenti rhentwyr incwm isel, fel y dywedwyd wrthym dro ar ôl tro. Mae diwygio’r lwfans tai lleol yn allweddol os ydym am ddod o hyd i atebion hirdymor i’r problemau a drafodwyd gennym yma heddiw.
Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU godi'r lwfans tai lleol yn flynyddol fel ei fod yn codi gyfuwch â rhenti cynyddol. Mae'n rhaid iddi gael gwared ar y gyfradd lwfans tai lleol ar gyfer llety a rennir, gyda thenantiaid sengl o dan 35 oed â hawl i’r gyfradd lwfans tai lleol ar gyfer un ystafell wely. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd ystyried yr argymhellion a wnaed gan Sefydliad Bevan ar gyfer gwella data ar renti, camau gweithredu ar renti atodol, camau gweithredu ar reolaethau rhent, yn ogystal ag amddiffyn tenantiaid. Ar wahân i ddilyn map ffordd End Youth Homelessness Cymru, dylai’r Llywodraeth hefyd ystyried, er bod yn rhaid i roi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc fod yn nod, mae’n debyg y bydd bob amser angen am lety mewn argyfwng, llety brys a llety adfer, ynghyd â mesurau atal. Pan fydd pobl ifanc yn dod yn ddigartref, mae angen i awdurdodau lleol gael ystod wahanol o opsiynau i ateb anghenion pobl ifanc.
Felly, dyna ni. Dyna’r rhesymau pam fod angen inni gefnogi’r cynnig hwn. Gwnewch hynny os gwelwch yn dda. Diolch.