Argyfwng Costau Byw

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 3 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:30, 3 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae ein pecyn costau byw gwerth £380 miliwn yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi aelwydydd ym Mlaenau Gwent ac yn helpu teuluoedd yno sydd mewn trafferthion oherwydd prisiau sy'n cynyddu yn gyflym. Rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau brys, gan gynnwys cynyddu budd-daliadau a chymryd camau i leihau biliau tanwydd aelwydydd.