Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 3 Mai 2022.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ni chafodd Llywodraeth Cymru ei gwahodd i gyfrannu at yr adolygiad o lywodraethu pêl-droed yn Lloegr dan arweiniad cefnogwyr. Bydd y rheoleiddiwr annibynnol newydd arfaethedig ar gyfer pêl-droed yn Lloegr yn cael rhywfaint o effaith ar glybiau Cymru sy'n chwarae yng nghynghreiriau Lloegr, ond mater i Lywodraeth y DU fydd goruchwylio'r rheoleiddiwr.