Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 3 Mai 2022.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae dros 1,200 o brentisiaethau gradd wedi eu llenwi yn ystod tair blynedd cyntaf y rhaglen yng Nghymru. Bydd ein pwyslais ar ehangu yn blaenoriaethu meysydd sy'n mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau, yn hybu cynhyrchiant ac yn cyfrannu at ein huchelgeisiau sero net.