Adeiladu Cymru Gynhwysol a Goddefgar

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 3 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:26, 3 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rydym ni eisiau i Gymru fod yn genedl oddefgar a chroesawgar, ond yn rhy aml, nid yw profiad bywyd rhai wedi adlewyrchu'r uchelgais hwnnw bob amser. Dangosodd yr ymgynghoriad diweddar ar ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol fod cynnydd clir wedi ei wneud, ond bod hefyd tir sydd eto i'w ennill.