Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 3 Mai 2022.
Diolch. Wel, cyfeiriodd yr Aelod at achos Logan Mwangi, sy'n amlwg yn achos trasig, ac mae ein meddyliau'n llwyr gyda phawb a effeithiwyd gan farwolaeth Logan. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig nawr yw bod yr adolygiad o arferion plant a'r arolygiad arfaethedig gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael eu cwblhau cyn i'r Gweinidog wneud unrhyw ddatganiad.