Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 3 Mai 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy'n sylweddoli bod y penderfyniad i gyflwyno archwiliadau rheoli mewnforion wedi'i ddileu'n gyflym a heb ddeialog ystyrlon â Llywodraethau ledled y DU, ac felly, o ganlyniad, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael llawer iawn o amser i ystyried y goblygiadau i Gymru mewn gwirionedd. Serch hynny, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn fel y gall Aelodau geisio deall y sefyllfa'n well a'r hyn y mae'n ei olygu, wrth symud ymlaen. Ac er gwybodaeth, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu y dylai archwiliadau priodol cael eu gwneud ar ein ffiniau, a gobeithiaf y gall Llywodraeth y DU fwrw ymlaen â'r mater hwn cyn gynted â phosibl. Ond yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu nad dyma'r amser iawn i wneud newidiadau eraill i archwiliadau rheoli mewnforion ar y ffin, yn dilyn ymgynghoriad â'r byd diwydiant, er mwyn lleddfu'r pwysau cynyddol ar fusnesau a defnyddwyr sydd eisoes dan bwysau. Byddai gennyf i ddiddordeb mawr mewn cael gwybod pa sylwadau, serch hynny, sydd wedi cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn ystod y misoedd diwethaf ynglŷn â'r mater hwn. Mae'r datganiad heddiw, wrth gwrs, yn cyfeirio at gostau byw cynyddol a phrisiau ynni uwch, felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa sylwadau penodol y mae wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU cyn ei phenderfyniad i ddileu archwiliadau rheoli mewnforion.
Nawr, fel y mae datganiad heddiw yn ei nodi, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyhoeddi model gweithredu targed yn yr hydref, a bydd y model hwnnw'n destun ymgynghoriad â diwydiant a gweinyddiaethau datganoledig. Mae hyn yn golygu bod amser i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch sut y dylai'r system yn y dyfodol edrych a sut y dylai weithredu. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni beth yw barn Llywodraeth Cymru ynghylch sut y dylai'r model edrych, ac a allai gadarnhau pa drafodaethau y mae'n eu cynnal gyda rhanddeiliaid yng Nghymru ynghylch yr hyn y maen nhw eisiau'i weld o ran y model newydd?
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod rhai wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU. Er enghraifft, mae SEF Langdon wedi dweud y bydd y newid mewn polisi tuag at ffin ddigidol fwy clyfar gan Lywodraeth y DU yn caniatáu llif rhydd o gynhyrchion bwyd diogel i Brydain Fawr ac y gallai'r penderfyniad arwain at fwy o gwmnïau o'r UE yn allforio i farchnad Prydain Fawr unwaith eto, cynyddu cystadleuaeth ac yn y pen draw gostwng prisiau i'r defnyddiwr. Ac felly, mae'n debyg bod cyfle ar hyn o bryd i lunio polisi tymor hwy a chael y model hwn yn iawn mewn ffordd sy'n gweithio gyda busnesau ac sy'n sicrhau bargen dda i ddefnyddwyr hefyd. Yn naturiol, mae costau wedi bod o ganlyniad i'r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma i sefydlu safleoedd rheoli ffiniau yng Nghymru, yn fwyaf nodedig yng Nghaergybi, ac mae'r datganiad heddiw'n amcangyfrif bod £6 miliwn eisoes wedi'i wario hyd yma. Fodd bynnag, os ydy archwiliadau rheoli mewnforio yn cael eu cyflwyno'n ddiweddarach a bod prisiau wedi cynyddu, efallai y ceir mwy o gostau yn y dyfodol. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym beth fydd dull Llywodraeth Cymru o gyllidebu ar gyfer hyn yn y dyfodol, o gofio bod modd gwneud penderfyniad i'w hailgyflwyno'n ddiweddarach, yr un mor gyflym ag y cafodd y penderfyniad i'w dileu ei wneud?
Nawr, mae'n amlwg bod Llywodraeth y DU yn ceisio digideiddio ffiniau Prydain, ac mae'r datganiad heddiw'n cyfeirio at y technolegau newydd hynny i symleiddio prosesau a lleihau ffrithiannau. Mae Llywodraeth y DU wedi cyfeirio at y ffenestr fasnach sengl a ddaw i rym y flwyddyn nesaf, sy'n canoli mynediad data i un man ac a fyddai'n caniatáu rhannu data'n well ymhlith asiantaethau'r Llywodraeth ac yn arwain at gostau is wrth fewnforio ac allforio nwyddau i fusnesau, a byddai gennyf i ddiddordeb mawr mewn dysgu ychydig mwy am y technolegau newydd sy'n cael eu defnyddio i leddfu llif masnach. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog rannu gyda ni unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae wedi'i chael ynglŷn â defnyddio unrhyw dechnolegau a data newydd, a'r rhan y bydd y dechnoleg newydd hon yn ei chwarae yn y dyfodol.
Mae'r Gweinidog wedi crybwyll clefydau anifeiliaid yn ei ddatganiad a bydd hefyd yn ymwybodol o'r bygythiad o glwyf moch Affricanaidd sy'n dod i mewn i'r DU drwy stociau heintiedig o Ewrop, neu deithwyr yn dod â chynhyrchion porc halogedig i'r wlad. Mae'n fater sydd wedi'i godi gan Gymdeithas Cyfanwerthwyr Cig yr Alban, sy'n credu y gallai'r DU fod yn peryglu ein diwydiant domestig, a gwn i fod Cymdeithas Milfeddygon Prydain wedi codi pryderon tebyg hefyd. Felly, a wnaiff ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda'r Gweinidog materion gwledig, yn ogystal â'r prif swyddog milfeddygol ac undebau'r ffermwyr, o ran effaith mewnforion heb eu harchwilio a sut y gallai effeithio ar ffermio yng Nghymru, yn ogystal â beth yw eu barn am unrhyw fodelau newydd yn y dyfodol?
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, byddai'n esgeulus i mi beidio â gofyn am ddyfodol safleoedd a oedd yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru, o gofio bod Johnston yn fy etholaeth i. Rwy'n sylweddoli ei bod hi'n ddyddiau cynnar, ond efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni pa effaith y gallai'r newidiadau ei chael ar safleoedd posibl ac a fydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried safleoedd eraill, wrth symud ymlaen, gan ei bod hi nawr wedi penderfynu dileu lleoliad Johnston yn fy etholaeth i. Felly, wrth gloi, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Rwy'n gobeithio y gall deialog llawer mwy agored ac ystyrlon ddigwydd rhwng y ddwy Lywodraeth, wrth symud ymlaen, yn y maes hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am y cynlluniau newydd wrth iddyn nhw gael eu datblygu. Diolch.