3. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Mesurau Rheoli Ffin

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 3 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:43, 3 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Dywedodd y Gweinidog dros Gyfleoedd Brexit Llywodraeth y DU, Jacob Rees-Mogg, yn ei ddatganiad ysgrifenedig i Senedd y DU ar 28 Ebrill fod cyflwyno mesurau rheoli ffiniau yn bygwth cynyddu'r pwysau ar fusnesau a defnyddwyr sydd eisoes dan bwysau, sy'n ymdrin â chostau byw cynyddol a phrisiau ynni uwch. Roedd hefyd mewn perygl o achosi aflonyddwch yn ein porthladdoedd ac i gadwyni cyflenwi, gan gynyddu prisiau bwyd a nwyddau i ddefnyddwyr a busnesau hyd yn oed ymhellach, ar yr adeg waethaf bosibl.

Er fy mod i'n cytuno y bydd y newidiadau hyn yn cyfrannu rhywfaint at leddfu'r pwysau hynny, rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o'r Aelodau'n cytuno â mi y dylai Llywodraeth y DU fod yn gwneud llawer mwy i ymdrin â'r argyfwng costau byw. Rwy'n ailadrodd ein galwadau gan Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU gyflwyno mesurau ymarferol yn ddi-oed i gefnogi pobl, busnesau a chymunedau.

Dirprwy Lywydd, rwyf i wedi'i wneud yn glir i Weinidogion y DU y byddai angen amser ar Lywodraeth Cymru i ystyried holl oblygiadau penderfyniad diweddar iawn Llywodraeth y DU a'i effaith ar Gymru. Yn benodol, mae angen i ni ddeall cynigion manwl Llywodraeth y DU ar sut i drin nwyddau o ynys Iwerddon. Yr un mor bwysig, mae angen i ni weithio gyda'n gilydd ar sut i sicrhau bioddiogelwch. Gwyddom ni, wrth gwrs, am ganlyniadau ofnadwy achosion o glefyd anifeiliaid neu blanhigion. 

Yn ogystal, mae angen i Lywodraeth Cymru weld ar frys ddeddfwriaeth ddrafft y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei chyflwyno, y mae'n rhaid iddi ddod i rym cyn 30 Mehefin. Mae hyn yn allweddol i benderfynu a fydd angen i ni gyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain ar gyfer Cymru, ac ychydig iawn o amser sydd ar ôl nawr er mwyn gwneud hynny. Rwy'n galw eto ar Lywodraeth y DU i weithio gyda ni ar frys i roi terfyn ar yr ansicrwydd hwn. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon gyflawni ein cyfrifoldebau yn unol â'n gweithdrefnau democrataidd sefydledig.

Hyd nes ein bod ni'n deall cynigion manylach, ni allaf i wneud sylwadau ar effaith y cyhoeddiad ar ein rhaglen waith, gwariant nac ymrwymiadau eraill ar gyfer y dyfodol. Rwyf i eisoes wedi dweud wrth yr Aelodau fod y Llywodraeth hon yn credu y dylai unrhyw wariant ar fesurau rheoli ffiniau, ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, gael ei ariannu gan Drysorlys y DU. Os rhywbeth, mae'r cyhoeddiad newydd hwn yn ychwanegu at gryfder ein safbwynt ni. Mae penderfyniadau Llywodraeth y DU wedi pennu ffurf ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd. Mae penderfyniadau Llywodraeth y DU yn parhau i effeithio'n uniongyrchol ar gyfrifoldebau datganoledig gyda chanlyniadau ariannol. Mae arnaf i ofn nad ydym ni'n gwybod eto a fydd y newid polisi diweddaraf hwn yn effeithio ar ymrwymiad presennol Llywodraeth y DU i ariannu costau angenrheidiol adeiladu safleoedd rheoli ffiniau. 

Dirprwy Lywydd, mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn hynod o rwystredig i Lywodraeth Cymru, i'n porthladdoedd ac i fusnesau Cymru. Mae arnaf i ofn dweud, er ein bod ni wedi bod yn cynllunio ar gyfer cyflwyno mesurau rheoli ffiniau, ein bod ni wedi cael ein llesteirio drwyddi draw oherwydd diffyg gwybodaeth. Mae cyfarfodydd ar y cyd gyda Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig eraill yn y maes hwn wedi cael eu gohirio dro ar ôl tro, ac mae Gweinidogion y DU yn dal heb ymateb i fy llythyr diweddaraf, o fis Mawrth eleni.

Hoffwn i atgoffa'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi etifeddu ymrwymiad polisi Llywodraeth y DU i ddatblygu safleoedd rheoli ffiniau mewndirol lle na allai porthladdoedd ddarparu ar eu cyfer, ac yr oeddem ni'n bwrw ymlaen â'r gwaith o geisio bod yn barod erbyn 1 Gorffennaf. Mae hyn wedi cymryd cannoedd o oriau o amser gweision sifil a llawer iawn o amser gweinidogol. Nid yw'n fy nghynnwys i'n unig; mae'n cynnwys Gweinidogion yn gyffredinol, gan gynnwys, yn benodol, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, ac, yn wir, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Ac rydym ni wedi gwario £6 miliwn o arian cyhoeddus ar y rhaglen waith hon hyd yn hyn.

Mae ymgysylltiad Llywodraeth y DU â'r Llywodraethau datganoledig o ran gwneud penderfyniadau wedi bod yn gwbl annerbyniol. Mae'n gwbl groes i'r ffyrdd o weithio a gafodd eu rhagweld yn yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol a'r fframweithiau cyffredin. Dirprwy Lywydd, mae hyn, a dweud y gwir, yn amharchus i Lywodraeth ddatganoledig, ac i'r Senedd hon y mae angen iddi graffu arnom ni a'n dwyn i gyfrif.

Wrth symud ymlaen, yr wyf i eisiau cydweithio â Llywodraeth y DU i sicrhau bod gennym ni'r system gywir ar gyfer mewnforio nwyddau—system sy'n ddiogel ac yn effeithlon. Er mwyn gwneud hynny, mae angen newid agwedd ac ymgysylltiad gwirioneddol. Os oes modd cyflawni system fewnforio ddiogel ac effeithlon drwy ddefnyddio technolegau newydd arloesol i symleiddio prosesau a lleihau ffrithiant, yna mae hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, ei gefnogi. Ond yn yr un modd, byddwn ni eisiau cael sicrwydd bod ein cyfrifoldebau strategol hirdymor i ddiogelu iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion yn y wlad hon yn cael grym priodol a digonol.

Ac yn olaf, hoffwn i ymddiheuro ymlaen llaw i'r Aelodau nad wyf i'n debygol o allu ymateb i geisiadau am wybodaeth ychwanegol fanwl ar hyn o bryd, gan nad ydym ni'n gwybod yr atebion i rai cwestiynau amlwg iawn. Serch hynny, mae'n bwysig bod Aelodau'n cael cyfle i wneud sylwadau ac i ofyn cwestiynau, a byddaf i'n ystyried y sylwadau a'r cwestiynau gan Aelodau yn fy ngohebiaeth ddilynol â Llywodraeth y DU, a'r hyn a fydd, gobeithio, yn ymgysylltu mwy rheolaidd a defnyddiol â nhw. Fel y dywedais i, byddaf i'n ysgrifennu at Weinidogion y DU cyn bo hir i wneud rhai o'r pwyntiau hyn, a byddaf i, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiadau.