4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 3 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:12, 3 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle, unwaith eto, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n ffoi rhag y rhyfel erchyll hwn yn y gobaith o gael noddfa. Gyda phob diwrnod sy'n mynd heibio, rydym ni'n clywed rhagor o straeon dirdynnol gan gynnwys, dros y penwythnos, yr achos o nifer fechan o sifiliaid yn cael dianc o'r gwaith dur dan gyrch yn Mariupol oherwydd ymdrechion ar y cyd gan y Cenhedloedd Unedig a'r Groes Goch. Mae Putin yn raddol gynyddu maint yr ymladd yn nwyrain Wcráin, gan ddod â mwy o bobl ddiniwed i berygl, ond mae gwrthwynebiad ffyrnig gan luoedd arfog Wcráin yn eu hwynebu nhw yn y fan honno.

Fe wyddom ni fod dros 5.5 miliwn o bobl wedi dianc rhag y gwrthdaro hwn, ac mae hi'n galonogol nodi ein bod ni wedi gweld rhywfaint o gynnydd yn niferoedd y fisâu a ganiatawyd gan y Swyddfa Gartref. Ledled y Deyrnas Unedig fe welsom ni bron i 120,000 o geisiadau am fisâu yn cael eu cyflwyno, gyda 86,100 yn cael eu rhoi a 27,100 o bobl yn cyrraedd. O'r bobl hyn, fe ddaeth 16,000 yn rhan o gynllun teuluoedd Wcráin, a 11,100 yn rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin. Mae data a gyhoeddwyd ar 27 Ebrill yn dangos bod 2,300 o fisâu wedi cael eu rhoi drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin i bobl sydd â noddwyr yng Nghymru. Mae cyfanswm o 670 o'r rhain ar lwybr uwch-noddwr Llywodraeth Cymru. Rydym ni'n gweld cynnydd cyson yn nifer y bobl sy'n cyrraedd Cymru, gan gynnwys i'n canolfannau croeso ni, ac rydym ni'n disgwyl y bydd y niferoedd hyn yn cynyddu wrth i fwy o fisâu gael eu cymeradwyo ac wrth i fwy o bobl wneud eu trefniadau ar gyfer teithio.

Ac er ein bod ni wedi gweld cynnydd o ran cymeradwyo fisâu, mae pryderon yn parhau o ran y dull o brosesu'r fisâu hyn a bod hwnnw'n achosi dryswch ac oedi i'r ffoaduriaid. Mae hyn yn arbennig o wir am deuluoedd nad ydyn nhw'n gallu teithio nes y bydd pob aelod o'u grŵp wedi cael ei fisa unigol, yn hytrach na bod y fisâu yn cael eu trin i gyd gyda'i gilydd. I'r rhai sydd wedi gallu cael noddfa yma, mae hi'n hanfodol, wrth gwrs, ein bod ni'n sicrhau bod yr amddiffyniadau diogelu gorau posibl ar waith. Mae hwn yn bryder a godais gyda Llywodraeth y DU sawl tro. Mae hi'n hanfodol bod y cynllun Cartrefi i Wcráin, er ei fod i'w ganmol mewn sawl ffordd—. Rydym ni'n cydnabod bod diffygion yn ei ddyluniad sy'n gallu gwneud rhai sydd angen noddfa yn agored i niwed. Rydym ni'n gweithio yn ddiflino ar draws cyrff cyhoeddus Cymru i leihau a lliniaru'r peryglon hyn, ond nid ydym ni'n gallu eu dileu nhw'n llwyr. Rydym ni'n parhau i godi ein pryderon ni gyda Llywodraeth y DU ac rydym ni'n ymyrryd pan fo'n hynny'n bosibl i atal niwed, ond ni fyddwn ni'n llwyddo ym mhob achos.

Cafodd cynlluniau blaenorol, fel rhai i gefnogi pobl yn ffoi o Affganistan, eu gweinyddu a'u monitro gan y Llywodraeth, yn debyg iawn i'n cynllun uwch-noddwr ni yng Nghymru. Roedd hyn yn caniatáu i bobl gael eu cefnogi o'r foment y gwnaethon nhw gyrraedd a chaniatáu rhoi gweithdrefnau diogelu priodol ar waith. Ar 5 Ebrill, fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau ynglŷn â sut y gall cyrff cyhoeddus helpu i amddiffyn pobl sy'n byw ar aelwydydd Wcrainaidd. Rydym ni hefyd yn rhoi manylion i awdurdodau lleol am y bobl sy'n cyrraedd o Wcráin drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin, i ganiatáu cynnal gwiriadau eiddo a diogelu a chynnig gwasanaethau cymorth.

Mae'r cyngor sydd gennym ni ar-lein yn annog rhai a allai gynnig llety neu geiswyr noddfa i ddefnyddio system paru Reset, yn hytrach na systemau mwy anffurfiol. Mae gan Reset flynyddoedd o brofiad yn gweithio gyda ffoaduriaid a noddwyr yng Nghymru ac yn gwybod sut i sicrhau rhyw gyfradd o gysondeb, a sicrhau bod ystyriaethau diogelu yn cael sylw. Rwy'n pryderu yn arbennig ynglŷn â pha mor agored i niwed yw ffoaduriaid o Wcráin, gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n fenywod a phlant, i weithredoedd pobl ddigydwybod sy'n ceisio cymryd mantais arnyn nhw a'u cam-drin nhw.

Rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau ar wahân hefyd ynglŷn â diogelu a chaethwasiaeth fodern ar gyfer yr awdurdodau lleol a'r noddwyr, ac wedi rhoi cyngor i staff canolfannau croesawu a chanolfannau cyswllt. Fe ddisgwylir i drydedd fersiwn o'r canllawiau diogelu a chaethwasiaeth fodern gael ei chyhoeddi'r wythnos nesaf. Rwyf i wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i adolygu'r gweithdrefnau sydd ar waith yn barhaus, ac maen nhw wedi rhoi sicrwydd bod eu desg gymorth wedi cael ei hehangu i ymateb i bryderon o ran diogelu. Rydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol i egluro sut y gellir gwneud atgyfeiriadau, ac rwy'n dal i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y gweithdrefnau gorau ar waith. Rydych chi'n ymwybodol hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi lansio llinell gymorth ar 28 Mawrth ar gyfer pobl sy'n cyrraedd Cymru o Wcráin, yn ogystal ag ar gyfer pobl sy'n noddwyr iddyn nhw. Mae'r llinell gymorth yn ceisio rhoi cyngor ac arweiniad, ac fe gafodd honno ei hymestyn erbyn hyn i fod ar waith 24/7 i sicrhau bod cymorth ar gael bob amser pan fydd ei angen.

Fe wnes i gyfarfod ag Arglwydd Harrington, y Gweinidog Ffoaduriaid, a Neil Gray Aelod o Senedd yr Alban, Gweinidog Diwylliant, Ewrop a Datblygu Rhyngwladol Llywodraeth yr Alban, wythnos diwethaf, lle codwyd materion yn ymwneud ag oedi, diogelu, ac ariannu. Nid yw cymorth ariannol fyth wedi cael ei ddarparu ar gyfer gweithredu ein canolfannau croeso uwch-noddwr ni, er mai'r rhain sy'n cynnig y llwybr mwyaf diogel a'r cymorth cofleidiol mwyaf cynhwysfawr. Fe fydd costau sylweddol heb eu hateb hyd yn hyn yn deillio o'r cynlluniau i gael fisâu i bobl o Wcráin. Mewn rhaglenni ailsefydlu eraill, fe fu yna gronfeydd hanfodol ar wahân ar gyfer gofal iechyd a hyfforddiant iaith Saesneg, yn ogystal â chyllid integreiddio ar gyfer blwyddyn 2 a blwyddyn 3, ac ni chyhoeddwyd yr un ohonyn nhw eto gan Weinidogion Llywodraeth y DU. Yn anffodus, nid yw Llywodraeth y DU yn rhoi'r cyllid angenrheidiol i Lywodraeth Cymru nac awdurdodau lleol Cymru ar hyn o bryd i allu cefnogi pobl sy'n cyrraedd o dan y cynllun teuluoedd mewn modd priodol. Rydym ni'n pwyso ar Lywodraeth y DU i roi'r un gyfradd o gymorth i deuluoedd o Wcráin â'r noddwyr a'r Wcrainiaid sy'n dod o dan gynllun Cartrefi i Wcráin.

Yn olaf, fe hoffwn i ddiolch unwaith eto i'r busnesau, y sefydliadau, yr unigolion a'r teuluoedd ledled Cymru sydd, drwy eu haelioni a'u hymdrechion, yn parhau i amlygu ysbryd haelfrydig ein cenedl ni. Rwyf i am gloi, fel o'r blaen, drwy ailadrodd bod cymorth, cyngor a chymorth ar gael drwy ein llinell gymorth rhad ac am ddim i noddwyr a phobl sy'n dod o Wcráin. Fe all noddwyr yng Nghymru ffonio'r llinell gymorth am ddim am gyngor bedair awr ar hugain y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae croeso cynnes yn aros ein cenedl noddfa ni. Diolch.