Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 3 Mai 2022.
Bydd ein pwyslais ar ysgolion bro yn chwarae rhan allweddol wrth ymateb i'r her hon. Mae swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn hanfodol i sicrhau bod partneriaethau cadarnhaol yn cael eu creu a bod cymorth pwrpasol yn cael ei gynnig. Gall ysgolion sy'n adnabod eu teuluoedd yn dda sicrhau bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith a fydd yn helpu plant i gynnal ymgysylltiad a phresenoldeb da. Rydym wedi darparu £3.84 miliwn yn ddiweddar ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, a fydd yn sefydlu perthynas gadarnhaol gyda rhieni ac yn rhoi arweiniad a gwybodaeth glir am bresenoldeb da.
Er bod hysbysiadau cosb benodedig am ddiffyg presenoldeb wedi bod ar gael i awdurdodau lleol yn ystod y pandemig, rydym wedi argymell yn gyffredinol yn erbyn eu defnyddio. Rydym yn awr mewn cyfnod lle y gallwn ni ddychwelyd yn ôl at y polisi blaenorol, pryd y gellir eu defnyddio pan fetho popeth arall. Rydym yn parhau i fod yn glir mai dim ond yn yr achosion mwyaf eithafol y dylid defnyddio dirwyon, fel rhan o amrywiaeth o ddewisiadau a phan fydd pob ymdrech i ymgysylltu â'r teulu wedi'i cheisio ac wedi methu, a phryd mae'n amlwg nad oes unrhyw resymau sylfaenol sy'n effeithio ar bresenoldeb yn yr ysgol. Yn effeithiol ar unwaith, felly, dylai pob awdurdod lleol ddychwelyd at ganllawiau ar ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig a gynhwysir yng nghanllawiau 2013 ar hysbysiadau cosb am ddiffyg presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol.
I gydnabod y newid yn y cyd-destun, byddwn yn diweddaru fframwaith presenoldeb Cymru gyfan. Fel rhan o'r gwaith hwn, rwyf yn awyddus i ni adolygu'r diffiniad o absenoldeb 'parhaus', yr ystyrir ar hyn o bryd ei fod yn fwy nag 20 y cant. Mae hwn yn fesur pwysig, gan ei fod yn aml yn cael ei osod fel sbardun ar gyfer mathau penodol o ymyrraeth, fel cynnwys y gwasanaeth lles addysg. Felly, credaf fod rhinwedd mewn ystyried cael trothwy is ar gyfer ymyrryd, a fyddai'n cyd-fynd â chynnydd yn y cymorth i'r gwasanaethau hyn.
Yn ystod y pandemig, mae absenoldeb wedi bod ar ei waethaf ymhlith blwyddyn 11. Er mwyn cefnogi'r dysgwyr hyn i baratoi ar gyfer arholiadau, gwnaethom ariannu'r ddarpariaeth o gymorth pontio wedi'i dargedu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o £1.28 miliwn ar gyfer dysgwyr blwyddyn 11 i'w cefnogi i symud ymlaen yn hyderus a gwneud penderfyniadau gwybodus am drosglwyddo i'r camau nesaf, gan gynnwys addysg bellach ac addysg uwch.
Rwyf hefyd yn pryderu y dylem gymryd yr holl gamau a allwn ni i leihau'r risg y gallai lefel uchel o absenoldeb yn y grŵp hwn o ddysgwyr arwain at nifer uwch nad ydyn nhw mewn addysg na hyfforddiant cyn bo hir. Dyna pam yr ydym ni wedi darparu £8.5 miliwn o gyllid pontio penodol i golegau a chweched dosbarth mewn ysgolion i gefnogi pobl ifanc wrth iddyn nhw symud i gam nesaf eu haddysg neu eu gyrfa, gan alluogi gweithgareddau fel mentora, sesiynau blasu a thiwtora ychwanegol.
Wrth gwrs, mae gan Estyn ran i'w chwarae o ran sicrhau bod presenoldeb yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol. Bydd Estyn yn casglu data ar bresenoldeb disgyblion, ac, fel rhan o'u gwaith treialu fframwaith arolygu, maen nhw'n ystyried darpariaeth i unedau atgyfeirio ysgolion a disgyblion ar gyfer monitro a gwella presenoldeb. Fel rhan o'u hadolygiad o'r trefniadau arolygu newydd ar gyfer mis Medi 2022, rwy'n croesawu'r ffaith bod Estyn hefyd yn ystyried sut i gryfhau eu gofynion adrodd ar bresenoldeb disgyblion fel rhan o'u pwyslais cynyddol ar degwch mewn addysg.
Mae'n hanfodol, Dirprwy Lywydd, fod gan bob ysgol bolisi presenoldeb clir. Er mwyn helpu i sicrhau bod hynny'n digwydd, byddaf yn gofyn i bob ysgol gyhoeddi eu polisïau presenoldeb. Dylai'r rhain fabwysiadu dull ysgol gyfan ac amlinellu sut mae ysgolion yn gweithredu yn dilyn absenoldeb dysgwyr, ac amlygu pa gamau y mae ysgolion yn eu cymryd i gefnogi dysgwyr, yn enwedig gweithdrefnau ar gyfer nodi ac ailintegreiddio disgyblion sy'n absennol dros dymor hir.
Arweiniodd y pandemig at gynnydd yn nifer y plant a oedd yn cael eu haddysgu yn y cartref. Bydd y cynigion addysg ddewisol yn y cartref sy'n cael eu datblygu gennym ar hyn o bryd yn helpu i sicrhau bod y dysgwyr hynny'n cael mynediad at addysg effeithlon ac addas. Mae'r pecyn cymorth ehangach yr ydym yn ei ddarparu yn elfen hanfodol a fydd yn gwella eu profiad dysgu a'u cyfleoedd datblygu, a bydd yn cynnwys mynediad llawn i'r adnoddau addysgol ar Hwb. Rydym yn annog awdurdodau lleol i gydweithio â theuluoedd drwy ddull cefnogol i alluogi pobl i ddychwelyd i'r ysgol.
Heddiw, rwyf wedi amlinellu rhai o'r camau y byddwn yn eu cymryd. Wrth i ni symud i ddull tymor hwy ar gyfer ymateb i coronafeirws, byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod hawliau plant a'r hawl i addysg wrth wraidd popeth a wnawn.