6. Dadl: Hawliau Dynol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 3 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:25, 3 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rydw i'n croesawu'r cyfraniad yna, oherwydd, ie, yr amcan yw edrych ar sut y gallwn ymgorffori holl gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig o fewn ein fframwaith cyfreithiol er mwyn eu diogelu, ond hefyd eu rhoi wrth wraidd ein syniadaeth ddeddfwriaethol. Felly, mi allaf gadarnhau hynny. Yn sicr, nid yw'n broses hawdd, mae'n gymhleth, ond, yn sicr, byddwn ni'n ystyried hynny'n gryf.